Rheoliad 2(2)(a)
ATODLEN 2DEUNYDDIAU CRAI A GANIATEIR WRTH BARATOI CYNHYRCHION DYNODEDIG
1. Ffrwythau, o unrhyw fath heblaw tomatos.
2. Piwrî ffrwythau, sef y cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy hidlo'r rhan fwytadwy o'r ffrwyth cyfan neu'r ffrwyth wedi'i bilio heb dynnu'r sudd ohono.
3. Piwrî ffrwythau dwysedig, sef y cynnyrch a geir o'r pwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o'i gynnwys dŵ r.
4. Siwgrau, sef —
(a)wrth baratoi neithdar ffrwythau —
siwgrau fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriadwyd i bobl eu bwyta (1);
surop ffrwctos;
siwgrau sy'n deillio o ffrwythau;
(b)wrth baratoi sudd ffrwythau o ddwysfwyd —
siwgrau fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2001/111/EC a enwyd;
surop ffrwctos;
(c)wrth baratoi sudd ffrwythau —
unrhyw siwgr a ganiateir ym mharagraff (b) uchod o ran sudd ffrwythau o ddwysfwyd ar yr amod ei fod yn cynnwys llai na 2% o ddŵ r.
5. Mêl, sef y cynnyrch a ddiffinnir fel “honey” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC mewn perthynas â mêl(2).
6. Mwydion neu gelloedd, sef —
mewn perthynas â ffrwythau sitrws, y codennau sudd a geir o'r endocarp;
mewn perthynas ag unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o rannau bwytadwy o'r ffrwyth heb dynnu'r sudd ohonynt.
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.
OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.