Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Dŵ r Mwynol Naturiol, Dŵ r Ffynnon a Dŵ r Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2003

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Maent yn diwygio Rheoliadau Dŵ r Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵ r Yfed wedi'i Botelu 1999 (O.S. 1999/1540, “y prif Reoliadau”), sy'n ymestyn i Brydain Fawr gyfan ac a ddiwygiwyd eisoes gan Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/656).

2.  Mewn perthynas â dŵ r ffynnon a dŵ r yfed wedi'i botelu, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC. Mae'r Gyfarwyddeb honno yn berthnasol i ansawdd dŵ r a fwriedir i'w yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 5.12.1998, t. 32).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)yn diwygio'r prif Reoliadau —

(i)yn rheoliad 2(1) (y brif ddarpariaeth ddehongli), drwy ddiwygio diffiniadau'r termau “bottle”, “parameter” a “prescribed concentration or value”, drwy fewnosod diffiniad o'r term “Directive 98/83” a rhoi diffiniad newydd o'r term “drinking water” yn lle'r hen un (rheoliad 3(a)),

(ii)drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 2(2) yn lle'r hen un, er mwyn tynnu unrhyw eiriau diangen a gwella'r drafftio (rheoliad 3(b)),

(iii)drwy ychwanegu darpariaeth drosiannol (rheoliad 2(5)) sy'n gosod sut mae'r termau “Schedule 3”, “parameter” a “prescribed concentration or value” fel y'u defnyddir yn rheoliad 2(1) i'w dehongli cyn 25 Rhagfyr 2003 (rheoliad 3(c)),

(iv)drwy fewnosod darpariaeth (rheoliad 2(6)) sy'n rhagnodi sut mae cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at farcio neu labelu potel i'w dehongli (rheoliad 3(c)),

(v)drwy addasu geiriad paragraff (c) o reoliad 3 (esemptiadau) (rheoliad 4),

(vi)drwy addasu paragraff (2) o reoliad 4 (adnabod fel dŵ r mwynol naturiol) drwy gynnwys ynddo sail ychwanegol y caiff yr awdurdod perthnasol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ei defnyddio i dynnu cydnabyddiaeth o ddŵ r fel dŵ r mwynol naturiol (rheoliad 5(a)),

(vii)drwy roi fersiwn ddiwygiedig o baragraff (5) yn lle'r hen un er mwyn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau perthnasol i roi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd pan fydd yn cydnabod neu'n tynnu cydnabyddiaeth o ddŵ r fel dŵ r mwynol naturiol (rheoliad 5(b)),

(viii)drwy fewnosod gofyniad newydd (rheoliad newydd 4(7A)) bod rhaid i'r awdurdodau perthnasol roi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd am hysbysiadau iddynt am newidiadau o ran disgrifiadau masnachol o ddŵr mwynol naturiol neu enwau ffynhonnau neu darddle (rheoliad 5(c)),

(ix)drwy egluro rheoliadau 5 (gwahardd rhag gwerthu) a 10 (labelu dŵr mwynol naturiol) (rheoliadau 6 a 7),

(x)drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 11 (dŵ r ffynnon) yn lle'r hen un er mwyn addasu'r gofynion sy'n berthnasol i botelu a gwerthu dŵr ffynnon a marcio a labelu poteli sy'n dwyn y dynodiad “spring water”; gan ychwanegu darpariaeth drosiannol sy'n gosod sut mae'r term “Schedule 3”, fel y'i defnyddir yn rheoliad 11, i'w ddehongli cyn 25 Rhagfyr 2003; a chan ychwanegu darpariaeth cydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas â dŵ r ffynnon sy'n cael ei botelu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig (rheoliad 8),

(xi)drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 12 (dŵ r yfed wedi'i botelu) yn lle'r hen un er mwyn addasu'r gofynion sy'n berthnasol i botelu a gwerthu dŵ r yfed wedi'i botelu; gan ychwanegu darpariaeth drosiannol sy'n gosod sut mae'r term “Schedule 3”, fel y'i defnyddir yn rheoliad 12, i'w ddehongli cyn 25 Rhagfyr 2003; a chan ychwanegu darpariaeth cydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas â dŵ r ffynnon sy'n cael ei botelu mewn Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig (rheoliad 9),

(xii)drwy roi fersiwn ddiwygiedig o baragraff (1) o reoliad 13 (gorfodi) yn lle'r hen un er mwyn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd, o 25 Rhagfyr 2003 ymlaen, i fonitro ansawdd dŵ r ffynnon a dŵ r yfed wedi'i botelu yn unol â gofynion penodedig Cyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliad 10(a)),

(xiii)drwy adolygu'r meini prawf a ddefnyddir i asesu dŵr fel rhan o'r gwaith gwirio y mae'n rhaid ei wneud arno o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliad 13(2)(a) i sicrhau ei fod yn ddŵ r mwynol naturiol (rheoliad 10(b)),

(xiv)drwy adolygu'r rhestr o ddarpariaethau'r prif Reoliadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(3) at eu dibenion hwy ni ddosberthir awdurdodau penodedig yn awdurdodau bwyd (rheoliad 10(c)),

(xv)drwy roi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 16 yn lle'r hen un er mwyn darparu, a hynny'n effeithiol o 25 Rhagfyr 2003 ymlaen, fod rhaid i'r dulliau dadansoddi a ddefnyddir i wirio cydymffurfedd dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu ag Atodlen 3 yn cael eu gwneud yn unol ag Erthygl 7.5 o Gyfarwyddeb 98/83/EC (rheoliad 11),

(xvi)drwy wneud newidiadau canlyniadol i reoliadau 17 a 18, sy'n darparu ar gyfer tramgwyddau a chosbau ac amddiffyniadau yn y drefn honno (rheoliadau 12 a 13),

(xvii)drwy wneud mân ddiwygiad eglurhaol i reoliad 19(3) (sy'n gwahardd gwerthu poteleidiau o ddŵr mwynol naturiol, dŵr ffynnon a dŵr yfed nas marciwyd neu nas labelwyd yn unol â rheoliad 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, O.S. 1996/1499 fel y'i diwygiwyd) (rheoliad 14),

(xviii)drwy adolygu, o 25 Rhagfyr 2003 ymlaen, y manylion a bennir yn Rhannau I a II o Atodlen I (manylion y mae'n rhaid i berson eu rhoi os yw'n gwneud cais am gael cydnabod dŵr yn ddŵr mwynol naturiol) (rheoliad 15),

(xix)drwy gywiro gwall teipograffyddol yn Atodlen 2 (manylion anionau, cationau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac elfennau hybrin) (rheoliad 16),

(xx)drwy adolygu'r gofynion ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu, gan gynnwys y gofynion ar gyfer crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig paramedrau, a gynhwysir yn Atodlen 3 (rheoliadau 17 i 21), a

(b)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (O.S. 1990/2463, fel y'u diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763, fel y'u diwygiwyd eisoes) (rheoliad 22).

4.  Cafodd arfarniad rheoliadol o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ei baratoi, yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru a rhoddwyd copi ohono yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

5.  Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau a hysbyswyd i'r Comisiwn Ewropeaidd o dan Gyfarwyddeb 98/34/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau a rheolau ar wasanaethau cymdeithas wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t. 37).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill