xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990LL+C

9.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, wedi eu haddasu fel bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant, ac yn y blaen);

(b)adran 3 (rhagdybiaeth mai gan bobl y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dilys) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs cynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion, ac yn y blaen);

(f)adran 33(2), wedi ei haddasu fel bod rhaid dehongli'r cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath fel y'i crybwyllwyd yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1