Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, ATODLEN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 2

ATODLEN 1LL+CCYNHYRCHION SIWGR PENODEDIG A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 mewn grym ar 28.11.2003, gweler rhl. 1

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau NeilltuedigCynhyrchion Siwgr Penodedig

Nodiadau:

1.

Ceir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig “sugar” neu “white sugar” fel ymadrodd arall ar gyfer y disgrifiad neilltuedig “extra-white sugar” yn achos y cynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod.

2.

Yn achos surop siwgr gwrthdro sy'n cynnwys crisialau yn y toddiant, rhaid ychwanegu'r ymadrodd goleddfu “crystallised” at ddisgrifiad y cynnyrch.

3.

Os bydd cynnyrch siwgr penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 7 neu 8 uchod yn cynnwys mwy na 5% o ffrwctos ar sail sylwedd sych, rhaid i'r disgrifiad neilltuedig fod naill ai yn “glucose-fructose syrup” neu “fructose-glucose syrup”, neu naill ai yn “dried glucose-fructose syrup” neu “dried fructose-glucose syrup” yn ôl y digwydd er mwyn adlewyrchu pa un yw'r gyfran fwyaf, y glwcos ynteu'r ffrwctos.

4.

Ceir rhoi ymadroddion goleddfu a ddefnyddir yn gyffredin ar y cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraffau 1 i 11 uchod, yn ogystal â'r disgrifiad neilltuedig ar yr amod na fydd hynny yn debygol o gamarwain y defnyddiwr o'i herwydd.

5.

Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 4 uchod os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu yn unol â dull y Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr (“ICUMSA”) wedi ei osod ym mharagraff 3 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69(1).

6.

Ceir defnyddio'r disgrifiad “white” mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraff 5 a 6 uchod os nad oes mwy na 0.1% o fwynau dargludedd ac os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu fel y'i gosodir ym mharagraff 1 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69.

7.

[F1Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â [F2Chyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (Ail-lunio) fel y diwygir Atodiad I iddi o bryd i’w gilydd] neu [F3Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd fel y diwygir yr Atodiadau iddo o bryd i’w gilydd].]

1.  Semi-white sugar

Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:

(a)

nid yw'r polareiddio yn llai na 99.5°Z

(b)

nid yw'n cynnwys mwy na 0.1% o siwgr gwrthdro o ran pwysau

(c)

nid yw'n colli mwy na 0.1% o ran pwysau ar ôl ei sychu

2.  Sugar neu white sugar

Swcros wedi ei buro a'i grisialu, o ansawdd da sy'n deg ei fasnachu, gyda'r nodweddion canlynol:

(a)

nid yw'r polareiddio yn llai na 99.7°Z

(b)

nid yw'n cynnwys mwy na 0.04% o siwgr gwrthdro o ran pwysau

(c)

nid yw'n colli mwy na 0.06% o ran pwysau ar ôl ei sychu

(ch)

nid yw'r math o liw yn fwy na naw pwynt, wedi ei bennu yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 2

3.  Extra-white sugar

Mae gan y cynnyrch yr un nodweddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2(a), (b) ac (c) yn yr Atodlen hon ac nad yw cyfanswm y pwyntiau a bennir yn ôl darpariaethau paragraffau 2 i 4 o Atodlen 2 yn fwy na wyth, ac nid yn fwy:

  • na phedwar o ran y math o liw,

  • na chwech o ran cynnwys mwynau,

  • na thri o ran y lliw yn y toddiant

4.  Sugar solution

Toddiant dyfrllyd swcros gyda'r nodweddion canlynol:

(a)

nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau

(b)

nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.2) o ran pwysau'r sylwedd sych

(c)

nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.1% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 2

(ch)

nid yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 45 o unedau ICUMSA

5.  Invert sugar solution

Toddiant dyfrllyd swcros wedi ei wrthdro yn rhannol drwy hydrolysis, nad siwgr gwrthdro yw'r gyfran fwyaf ohono, gyda'r nodweddion canlynol:

(a)

nid yw'r sylwedd sych yn llai na 62% o ran pwysau

(b)

nid yw'n cynnwys mwy na 3% o siwgr gwrthdro (cymhareb ffrwctos i ddecstros = 1.0 ± 0.1) ond heb fod yn fwy na 50% o ran pwysau'r sylwedd sych

(c)

nid yw'r mwynau dargludedd yn fwy na 0.4% o ran pwysau'r sylwedd sych, wedi ei bennu yn unol â [F4pharagraff 3] o Atodlen 2

6.  Invert sugar syrup

Toddiant dyfrllyd swcros, wedi ei grisialu ai peidio, sydd wedi ei wrth-droi yn rhannol drwy hydrolysis, y mae'n rhaid iddo gynnwys mwy na 50% o siwgr gwrthdro (cyniferydd ffrwctos/decstros = 1.0 ± 0.1), o ran pwysau'r sylwedd sych, ond y mae'n rhaid fel arall bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 5(a) ac (c) yn yr Atodlen hon.

7.  Glucose syrup

Toddiant dyfrllyd sacaridau maethol wedi ei buro a'i grynhoi, sydd wedi ei gael o starts neu inswlin neu'r ddau, gyda'r nodweddion canlynol:

(a)

nid yw'r sylwedd sych yn llai na 70% o ran pwysau

(b)

nid yw'r decstros cyfwerth yn llai nag 20% o'r sylwedd sych o ran pwysau ac wedi ei fynegi fel D-glwcos

(c)

nid yw'r mwynau wedi eu sylffadu yn fwy nag 1% o'r sylwedd sych o ran

8.  Dried glucose syrup

Surop glwcos wedi ei sychu yn rhannol, gydag o leiaf 93% sylwedd sych o ran pwysau, ond rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 7(b) ac (c) yn yr Atodlen hon.

9.  Dextrose neu dextrose monohydrate

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu sy'n cynnwys un molecwl o ddwr crisialu, gyda'r nodweddion canlynol:

(a)

decstros (D-glwcos) heb fod yn llai na 99.5% o sylwedd sych o ran pwysau

(b)

sylwedd sych heb fod yn llai na 90% o ran pwysau

(c)

mwynau wedi eu sylffadu heb fod yn fwy na 0.25% o sylwedd sych o ran pwysau

10.  Dextrose neu dextrose anhydrous

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu nad yw'n cynnwys dŵ r crisialu, gyda o leiaf 98% o sylwedd sych o ran pwysau, ond y mae'n rhaid iddo fel arall fodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff 9(a) ac (c) yn yr Atodlen hon.

11.  Fructose

D-glwcos wedi ei buro a'i grisialu gyda'r nodweddion canlyniadol:

  • yn cynnwys o leiaf 98% o ffrwctos

  • yn cynnwys ar y mwyaf 0.5% o glwcos

  • ni chollir mwy na 0.5% o ran pwysau ar ôl ei sychu

  • mwynau dargludedd heb fod yn fwy na 0.1% o ran pwysau wedi ei bennu yn unol â [F5pharagraff 3] o Atodlen 2

(1)

OJ Rhif L163, 1.7.1969, t.1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill