Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 3, 4 a 5

YR ATODLEN

RHAN 1CYFLWYNIAD

1.  Yn yr Atodlen hon —

mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” yn adran 96(1) o Ddeddf Elusennau 1993(1);

ystyr “grwp blwyddyn” (“year group”) yw grwp o ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol ac sy'n cyrraedd yr un oedran yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn ysgol pan wneir y cais (neu, yn ôl y digwydd, yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Medi yn union o flaen y dyddiad hyd ato y llenwir y ffurflen flynyddol); ac

ystyr “llety byrddio” (“boarding accommodation”) yw llety dros nos y mae'r ysgol yn ei drefnu neu ei ddarparu yn yr ysgol neu yn rhywle arall, ac eithrio llety i ddisgyblion i ffwrdd o dir ac adeiladau'r ysgol ar drip am gyfnod byr.

RHAN 2GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN CAIS

2.—(1Enw llawn y perchennog, ac unrhyw enwau blaenorol a fu ganddo.

(2Naill ai —

(a)cyfeiriad preswyl arferol, Rhif ffôn, dyddiad geni a Rhif Yswiriant Cenedlaethol y perchennog os yw'n unigolyn;

(b)cyfeiriad a Rhif ffôn prif swyddfa neu swyddfa gofrestredig os yw'r perchennog yn gorfforaeth, yn ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau.

(3Enw a chyfeiriad yr ysgol, ei chyfeiriad e-bost, ei Rhif ffôn a'i Rhif ffacs.

(4Os oes gan yr ysgol gorff llywodraethu, enw llawn a chyfeiriad preswyl arferol a Rhif ffôn Cadeirydd y corff hwnnw.

3.—(1Ystod oedran arfaethedig y disgyblion.

(2Uchafswm arfaethedig y disgyblion.

(3P'un a yw'r ysgol ar gyfer disgyblion gwrywaidd, neu ddisgyblion benywaidd neu'r ddau.

(4P'un a yw'r ysgol yn darparu llety byrddio ar gyfer disgyblion.

(5P'un a yw'r ysgol yn derbyn disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

(6P'un a fydd yr ysgol yn darparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a'r math o anhawster dysgu y darperir ar ei gyfer.

(7P'un a fydd yr ysgol yn darparu gofal dydd o fewn ystyr paragraff 1(2) o Atodlen 9A i Ddeddf Plant 1989(2) ar gyfer unrhyw blentyn y gofalir amdano yn yr ysgol.

(8Plan yn dangos gweddlun y tir a'r adeiladau a'r llety.

(9Cynlluniau cwricwlwm manwl, cynlluniau gwaith a gweithdrefnau asesu disgyblion.

(10Copïau o'r polisïau ysgrifenedig sy'n ofynnol gan reoliad 3(2) o'r Atodlen i Reoliadau Ysgol Annibynnol (Safonau) (Cymru) 2003(3).

(11Copi o'r drefn gwyno y mae paragraff 7 o'r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 yn ei gwneud yn ofynnol.

(12P'un a yw'r perchennog yn bwriadu darparu llety byrddio i unrhyw blentyn yn yr ysgol (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed ganddo) am fwy na 295 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn.

(13 Anian grefyddol yr ysgol, os oes un.

(14P'un a yw tir ac adeiladau'r ysgol, gan gynnwys llety byrddio, mewn dau leoliad neu fwy, ac os felly, cyfeiriad pob un o'r lleoliadau.

(15Os yw'r ysgol yn elusen, neu'n cael ei rhedeg gan elusen, enw'r elusen honno a'i Rhif cofrestru.

(16Copi o'r Dystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol a ddyroddir gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau bod y perchennog yn addas i weithio gyda phlant.

(17Copi o asesiad risgiau'r ysgol o dan reoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(4) i'r graddau y mae'n berthnasol i rwymedigaethau o dan Ran II o Reoliadau Rhagofalon Tân (y Gweithle) 1997(5)).

RHAN 3GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN YN Y FFURFLEN SYDD I'W CHYFLWYNO CYN PEN Y TRI MIS CYNTAF AR ÔL DERBYN DISGYBLION

4.—(1Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn perthnasol.

(2Yn achos ysgol â llety byrddio —

(a)nifer y disgyblion byrddio; a

(b)oedran yr hynaf a'r ieuengaf o'r disgyblion byrddio (ar 31 Awst yn union cyn y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2)(b)).

(3Yn achos ysgol sydd hefyd yn darparu addysg ran-amser, rhaid rhoi'r niferoedd y mae is-baragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol ar wahân ar gyfer disgyblion sy'n cael addysg ran-amser a'r rhai sy'n cael addysg lawn amser.

(4Yn achos ysgol gydaddysgol, rhaid rhoi'r niferoedd sy'n ofynnol gan y paragraff hwn ar wahân ar gyfer bechgyn a merched.

5.—(1Nifer y disgyblion yn yr ysgol y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o achos anghenion addysgol arbennig yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â hwy; ac mewn perthynas â phob un o'r disgyblion hynny —

(a)ei enw;

(b)y dyddiad pan ddaeth yn ddisgybl yn yr ysgol; ac

(c)enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal y datganiad.

(2Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (1), ond y dynodwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig.

6.  Yr wybodaeth ganlynol ynghylch athrawon a gyflogir yn yr ysgol (a rhoddir niferoedd ar wahân ar gyfer dynion a merched) —

(a)nifer yr athrawon llawn amser;

(b)nifer yr athrawon rhan-amser; ac

(c)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae athrawon rhan-amser yn eu gweithio yn ystod y tymor.

7.  Yr wybodaeth ganlynol ynghylch pob person a gyflogir yn yr ysgol —

(a)enw'r person ac unrhyw enw blaenorol a fu ganddo;

(b)rhyw'r person, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Cenedlaethol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi;

(c)yn achos pob athro, ei gymwysterau a datganiad yn dweud ai ef yw'r pennaeth neu a yw'n athro llawnamser neu ran-amser; ac

(ch)cadarnhad ei fod ef wedi derbyn Tystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau ei fod yn addas i weithio gyda phlant.

8.—(1Swm y ffioedd hyfforddi a ffioedd eraill (ac eithrio ffioedd llety byrddio) sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl yn yr ysgol ac y mae eu talu yn un o amodau mynychu'r ysgol.

(2Yn achos ysgol sy'n darparu llety byrddio i ddisgyblion, swm y ffioedd byrddio blynyddol sy'n daladwy mewn perthynas â disgybl byrddio.

RHAN 4GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN FFURFLEN FLYNYDDOL

9.  Yr holl wybodaeth a bennir gan Ran 2 a 3 o'r Atodlen hon ac eithrio'r hyn a bennir ym mharagraffau 3(6) i 3(10), 3(13) a 7.

10.  Ar gyfer pob person a ddechreuodd gael ei gyflogi yn yr ysgol neu y daeth ei gyflogaeth i ben ers dyddiad y ffurflen ddiwethaf at yr awdurdod cofrestru—

(a)enw llawn y person ac unrhyw enw blaenorol a fu ganddo;

(b)rhyw'r person, ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Cenedlaethol ac ym mha swyddogaeth y caiff ei gyflogi;

(c)ym mha le y mae'n athro, ei gymwysterau a datganiad ynghylch pa un ai ef yw'r pennaeth, a yw'n athro llawnamser, neu'n athro rhan-amser; ac

(ch)cadarnhad ei fod ef wedi derbyn Tystysgrif Ddatgelu ar y lefel briodol a roddwyd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cadarnhau eu bod yn addas i weithio gyda phlant.

11.  Yn y ddwy flynedd cyn dyddiad dychwelyd y ffurflen, ac eithrio yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, nifer y plant sy'n mynychu'r ysgol ac y darparwyd llety iddynt yno (neu yn rhywle arall yn unol â threfniadau a wnaed gan y perchennog) am fwy na 295 diwrnod yn y flwyddyn honno.

12.—(1Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn disgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sy'n dilyn cyrsiau ar gyfer arholiadau.

(2Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed sydd wedi cwblhau cyrsiau ar gyfer arholiad Tystysgrif Addysg Gyffredinol (Safon Uwch neu Safon Uwch Gyfrannol), neu Dystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch (TAAU), ond sy'n aros yn yr ysgol at ddiben heblaw dilyn unrhyw gwrs pellach o'r natur honno.

(3Nifer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn o ddisgyblion 15, 16, 17 a 18 oed (ac eithrio'r rhai sydd yng nghategori'r disgyblion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)) sy'n mynychu'r ysgol at ddiben heblaw dilyn cyrsiau ar gyfer arholiad perthnasol.

(4Rhaid datgan y nifer a bennir yn y ffurflen flynyddol o dan is-baragraff (1) a (2) ar wahân ar gyfer —

(a)cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn unig;

(b)cyrsiau mewn pynciau eraill yn unig;

(c)cyrsiau mewn pynciau mathemategol neu wyddonol yn rhannol ac mewn pynciau eraill yn rhannol; ac

(ch)bechgyn a merched.

13.  Os bu newid ar dir yr ysgol neu yn ei hadeiladau neu'i llety byrddio ers y dyddiad hyd ato y llanwyd y ffurflen flynyddol yn uniongyrchol o'i blaen (neu, yn achos y ffurflen flynyddol gyntaf, ers y dyddiad hyd ato y llanwyd yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais i gofrestru'r ysgol), manylion y newid hwnnw.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill