xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3232 (Cy.312)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

1 Ionawr 2004

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 163(3)(b) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2004.

2.  Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru.

3.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw arolygiad cyn 1 Ionawr 2006 o ysgol a oedd ar 31 Rhagfyr 2003 wedi'i chofrestru dros dro yn unol ag adran 465(3) o Ddeddf Addysg 1996(2).

Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu

4.  Pan fydd yr awdurdod cofrestru yn ei gwneud yn ofynnol bod yr adroddiad arolygu a wnaed o dan adran 163(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002 cael ei gyhoeddi, rhaid i'r person a gynhaliodd yr arolygiad —

(a)anfon copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw at y perchennog, a

(b)rhoi copi o'r adroddiad arolygu, ac unrhyw grynodeb o'r adroddiad hwnnw, ar y rhyngrwyd ar ei wefan.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn manylu ar sut y mae adroddiad arolygu i'w gyhoeddi pan fydd ei gyhoeddi yn ofynnol gan yr awdurdod cofrestru wedi i ysgol annibynnol gael ei harolygu gan y Prif Arolygydd neu gan un arolygydd cofrestredig neu fwy o dan adran 163(1)(a) o Ddeddf Addysg 2002.

(1)

2002 p.32; gweler adran 212(1) am y diffiniad o “regulations”, yn eu rhinwedd hwy y mae'r Rheoliadau hyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig. Mae adran 212(1) yn diffinio “prescribed” hefyd.