Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 414 (Cy.59)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

26 Chwefror 2003

Yn dod i rym

28 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(3):

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2003.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(4)).

Diwygio'r prif Reoliadau

3.—(1Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd “Transitional Arrangements” rhodder y canlynol —

Transitional Arrangements

Transitional arrangements were in place to phase in the effect of significant changes in liability which arose from the 2000 valuation of non-domestic property. Such transitional arrangements cease to operate from 1 April 2003..

(3Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd “Rural Rate Relief” rhodder y canlynol —

Rural Rate Relief

From 1 April 2002 occupiers of qualifying businesses with a rateable value of £6,000 or less (£9,000 if the business is a public house or petrol station) appearing in a billing authority’s rural settlement list are entitled to rate relief at 50 per cent of the full rates bill. Billing authorities have discretion to remit all or part of the remaining 50 per cent.

Authorities also have discretion to remit all or part of the rates bills on other property in a settlement on the rural settlement list if the rateable value is £12,000 or less and the authority is satisfied that the property is used for a purpose which benefits the local community..

(4Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd “Trefniadau trosiannol” rhodder y canlynol —

Trefniadau Trosiannol

Yr oedd trefniadau trosiannol ar waith i raddol-gyflwyno effaith newidiadau sylweddol i'r hyn sy'n daladwy a oedd yn deillio o brisiad 2000 ar eiddo annomestig. Bydd y trefniadau trosiannol hynny yn peidio â gweithredu o 1 Ebrill 2003 ymlaen..

(5Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd “Rhyddhad Gwledig rhag Trethi” rhodder y canlynol —

Rhyddhad Ardrethi Gwledig

O 1 Ebrill 2002 ymlaen mae gan feddiannydd busnesau perthnasol a'u gwerth trethiannol yn £6,000 neu lai (£9,000 os yw'r busnes yn dŷ tafarn neu'n orsaf betrol) sy'n ymddangos ar restr aneddiadau gwledig yr awdurdod bilio hawl i gael rhyddhad ardrethi ar 50 y cant o'r bil trethi llawn. Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i ildio'r cyfan neu ran o'r 50 y cant arall.

Mae gan awdurdodau ddisgresiwn hefyd i ildio'r cyfan neu ran o filiau trethi eiddo eraill mewn anheddiad sydd ar y rhestr o aneddiadau gwledig sydd â gwerth trethiannol o £12,000 neu lai a lle bo'r awdurdod yn fodlon bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio at ddiben sydd o fantais i'r gymuned leol..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Chwefror 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 yn darparu ynghylch cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau bilio yng Nghymru a bod gwybodaeth yn yr iaith briodol yn cyd-fynd â'r hysbysiadau hynny.

Mae'r rheoliadau hyn, a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac sydd bellach yn arferadwy ganddo, yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae'n rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei rhoi i adlewyrchu dileu'r trefniadau trosiannol a newidiadau i'r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig.

(1)

1988 p.41; diwygiwyd Atodlen 9, paragraff 2(2), gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), adrannau 139 a 194(4), Atodlen 5, paragraffau 1, 44(2), (3), (4), 79(3) ac Atodlen 12, Rhan II.

(3)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill