Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003

Pwerau arolygwyr, etc.

7.—(1Os yw arolygydd wedi ei fodloni bod cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar naill ai—

(a)heb ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r Gorchymyn hwn; neu

(b)ag angen ei lanhau a'i ddiheintio oherwydd y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd,

caiff gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.

(2Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol—

(a)gwahardd defnyddio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;

(b)gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gael gwared ar yr holl borthiant y mae anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion a deunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y modd a bennir yn yr hysbysiad

(3Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid i'r glanhau a'r diheintio gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 os nad yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio

(4Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3 neu 4, yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hynny a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.

(5Os nad yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu bod darpariaethau'r hysbysiad yn cael eu cyflawni ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.