xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 4;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);
mae i “gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian” yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989(1);
ystyr “gwasanaeth mabwysiadu” (“adoption service”) yw'r weithred o gyflawni swyddogaethau mabwysiadu perthnasol gan awdurdod lleol o fewn ystyr “discharge by that authority of relevant adoption functions” yn adran 43(3)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
rhaid dehongli “rheolwr” (“manager”) yn unol â rheoliad 6;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol —
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae'r gwasanaeth mabwysiadu wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag awdurdodau lleol.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —
(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, onid ymddengys bwriad fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(a)cyflogi person boed am dâl neu beidio;
(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac
(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
3.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynglŷn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, os gofynnir amdano, i'w archwilio gan y canlynol —
(a)plant y gellir eu mabwysiadu, eu rhieni a'u gwarcheidwaid;
(b)personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;
(c)personau sydd wedi'u mabwysiadu, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn warcheidwaid;
(ch)pob person sydd yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau fod ei wasanaeth mabwysiadu yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.
(4) Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dorri unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, na pheidio â chydymffurfio â hi nac yn ei awdurdodi i wneud hynny.
4.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynglŷn â'r materion a restrir yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r canlynol —
(a)y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)pob darpar fabwysiadydd cymeradwy y mae'r awdurdod wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda hwy; ac
(c)pob plentyn (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth), y caniateir ei leoli neu sydd wedi'i leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod.
5. Rhaid i bob awdurdod lleol —
(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant o dan sylw ac, os yw'n briodol, eu hadolygu; a
(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.