Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyllid cyfalaf awdurdodau lleol.

Mae adran 49(2) o Ddeddf 1989 yn nodi fformwla ar gyfer pennu, at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.

Un o'r elfennau y cyfeirir atynt yn y fformwla honno yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol pan ddaeth y trefniant credyd i fodolaeth.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod y gyfradd ganrannol y cyfeirir ati uchod yn gyfradd ganrannol o 6.5 y cant o ddisgownt sy'n 0.2 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2002/2003.