Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

2.—(1Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn lle rheoliad 52 (darpariaethau trosiannol) rhoddir y rheoliad canlynol

52.(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a oedd, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, naill ai'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth faethu ac sy'n parhau naill ai i'w rhedeg neu i'w rheoli.

(2) Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo (“person anghofrestredig”) —

(a)os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

(c)tan 1 Gorffennaf 2003 yn achos person anghofrestredig nad yw'n gwneud cais yn unol ag is-baragraff (a).

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os —

(a)yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn bod adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson anghofrestredig ac y dylai paragraff (2) o'r rheoliad hwn beidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig hwnnw; a

(b)yn nhyb yr ynad, os na wneir y gorchymyn y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu les rhywun.

(4) Os yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)caiff yr ynad wneud y gorchymyn y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw;

(b)bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r person anghofrestredig, a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig, o'r amser pan wneir y gorchymyn.

(5) Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan baragraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl y digwydd) wedi ei wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 ac yn gymwys i'r person anghofrestredig.

(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu sy'n dod o dan adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sy'n bodoli yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.

(7) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (6) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth(1)

(a)os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

(c)tan 1 Gorffennaf 2003, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).

(8) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, sy'n bodoli yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(9) Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi ei fodloni y dylai'r plentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth, caiff wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (10), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar ei ran gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (8) yn gymwys iddo (“darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig”)—

(a)os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y darparwr hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu

(c)tan 1 Gorffennaf, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).

(10) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (9) oni bai—

(a)ei fod wedi ei fodloni —

(i)bod y darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig â'r gallu i gyflawni'r dyletswyddau ar ei ran; a

(ii)mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a

(b)ei fod wedi ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynghylch y trefniadau, sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig.

(11) Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddi.

(1)

Gweler Adran 121(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Yn ôl i’r brig

Options/Help