xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
26 Mawrth 2003
Yn dod i rym fel y darparwyd yn erthygl 1
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 101(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003.
(2) Mae'r Erthygl hon ac Erthygl 2(1) a (2), o'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Medi 2003.
(3) Mae Erthygl 2(3) yn dod i rym ar 1 Medi 2004.
2.—(1) Caiff Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (b) mewnosodir —
“(ba)provision for personal and social education for all registered pupils at the school who are of compulsory school age,”.
(3) Ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir yn unol â pharagraff (2)) mewnosodir —
“(bb)provision for work-related education for all registered pupils at the school during the fourth key stage,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru gynnwys cwricwlwm sylfaenol sy'n cwmpasu addysg grefyddol, y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cymru ac addysg rhyw. Mae is-adran (3) yn galluogi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Gorchymyn sy'n diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu gofynion pellach.
Mae'r Gorchymyn hwn, sydd wedi'i wneud o dan is-adran (3), yn ychwanegu dau ofyniad newydd at y cwricwlwm sylfaenol. Mae'r cyntaf, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm sylfaenol gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol i ddisgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol. Mae'r ail, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2004, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg gysylltiedig â gwaith i ddisgyblion sydd yng nghyfnod allweddol pedwar (disgyblion 14—16 oed yn fras).
Wrth addysgu plant mewn addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg gysylltiedig â gwaith mae'n rhaid rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol — gweler adran 100(8) o'r Ddeddf. Bydd y Cynulliad yn cyhoeddi canllawiau yng Nghylchlythyr cccc 13/2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Addysg Bersonal a Chymdeithasol ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith yn y Cyricwlwm Sylfaenol”. Gellir cael copïau o Is-adran Safonau a Pherfformiad y Cynulliad a gellir eu gweld ar dysgu.cymru.gov.uk.