xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN IVADOLYGIADAU

Effeithiolrwydd a digonolrwydd trefniadau

5.  Wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol rhaid i'r Comisiwn asesu effeithiolrwydd trefniadau corff GIG dan sylw ac ystyried a yw'r trefniadau hynny'n ddigonol.

Adroddiadau am adolygiadau

6.—(1Ar ôl i adolygiad llywodraethu clinigol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i gorff GIG dan sylw.

(2Ar ôl i adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad gwasanaeth gwladol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r personau neu'r cyrff a oedd yn destun yr adolygiad.

(3Pan ddaw adolygiad gwasanaeth gwladol i ben rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) nodi —

(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn; a

(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.

Adroddiadau o Ddiddordeb Arbennig — Adolygiad llywodraethu clinigol

7.—(1Os daw mater i sylw y Comisiwn yng nghwrs adolygiad llywodraethu clinigol y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw—

(a)unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo; a

(b)y cyhoedd,

caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.

(2Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) —

(a)y corff GIG sydd yn destun yr adolygiad;

(b)y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) —

(a)i'r corff GIG sydd yn destun yr adolygiad;

(b)i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(c)mewn achos lle mae paragraff (2)(c) yn gymwys, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;

(ch)i unrhyw gorff GIG neu ddarparydd gwasanaeth arall neu at unrhyw berson neu i unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid rhoi copi o'r adroddiad iddynt.

Adroddiadau o ddiddordeb arbennig — adolygiad cyffredinol

8.—(1Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad cyffredinol y mae'r Comisiwn yn credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw—

(a)unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo; a

(b)y cyhoedd,

caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.

(2Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) —

(a)person neu gorff sydd yn destun adolygiad;

(b)y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)mewn achos lle darparydd gwasanaeth yw testun yr adolygiad, y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.

(3Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1) —

(a)at y person neu i'r corff sydd yn destun yr adolygiad ac y mae'r Comisiwn yn credu y dylid tynnu ei sylw at y mater;

(b)os mai'r person hwnnw neu'r corff hwnnw yw'r darparydd gwasanaeth, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;

(c)i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(ch)i unrhyw gorff GIG neu ddarparydd gwasanaeth arall neu at unrhyw berson neu i unrhyw gorff sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y dylid rhoi copi o'r adroddiad iddynt.

Camau pellach yn sgil adolygiad

9.—(1Mae paragraffau (2) i (4) isod yn gymwys os yw corff GIG wedi bod yn destun adolygiad llywodraethu clinigol neu adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad cenedlaethol.

(2Ar ôl i adolygiad ddod i ben, rhaid i'r corff GIG dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.

(3Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (2) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdodau Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth GIG.

(4Cyn penderfynu ynghylch cymeradwyo datganiad a baratoir o dan baragraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.