- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Rhaid i'r Comisiwn gynnal ymchwiliad ar gais y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Caiff y Comisiwn gynnal ymchwiliad —
(a)os caiff y Comisiwn gais i ymchwilio gan unrhyw berson neu gorff; neu
(b)os, fel arall, ymddengys i'r Comisiwn ei bod yn briodol gwneud hynny.
(3) Os yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid iddo ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o fewn adran 20(1)(c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau yn ôl yr hyn a bennir yn y cais.
(4) Os yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad mewn unrhyw achos arall, caiff ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o fewn adran 20(1)(c) neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau o'r Ddeddf fel y gwêl yn briodol.
11. Os yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r Comisiwn ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i gynnal ymchwiliad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad hwnnw ddechrau—
(a)at unrhyw berson neu i unrhyw gorff a fydd yn destun ymchwiliad;
(b)yn achos ymchwiliad o dan reoliad 10(2) sy'n ymwneud â Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Arbennig neu ymddiriedolaeth GIG, i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)yn achos ymchwiliad sy'n ymwneud â darparydd gwasanaeth, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
12.—(1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad llywodraethu clinigol neu adolygiad cyffredinol y mae'n credu ei fod yn briodol yn destun ymchwiliad, caiff y Comisiwn ddechrau ymchwiliad i'r mater hwnnw.
(2) Os yw'r Comisiwn yn cynnal adolygiad llywodraethu clinigol, rhaid i'r Comisiwn, os yw'n rhesymol ymarferol, ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad ddechrau —
(a)i'r person neu'r corff sydd yn destun yr adolygiad;
(b)os Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth GIG sydd yn destun adolygiad, i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Os yw'r Comisiwn yn cynnal adolygiad cyffredinol, rhaid i'r Comisiwn, os bydd yn rhesymol ymarferol, ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad ddechrau —
(a)i unrhyw berson neu gorff sydd yn destun yr adolygiad ac a fydd hefyd yn destun yr ymchwiliad;
(b)os darparydd gwasanaeth yw'r person neu'r corff hwnnw, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
(4) Os yw'r Comisiwn yn dechrau ymchwiliad o'r fath, caiff y Comisiwn atal neu barhau â'r adolygiad llywodraethu clinigol neu'r adolygiad cyffredinol ac, os yw'r adolygiad wedi ei atal, caiff ei ailddechrau ar unrhyw amser.
13.—(1) Ar ôl i ymchwiliad a wnaed ar gais y Cynulliad Cenedlaethol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ac anfon copi o'r adroddiad —
(a)at unrhyw berson neu i unrhyw gorff a oedd yn destun yr ymchwiliad;
(b)yn achos ymchwiliad sy'n ymwneud â darparydd gwasanaeth, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
(2) Ar ôl i ymchwiliad a wnaed ar gais unrhyw berson neu gorff arall ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r person neu'r corff hwnnw ac anfon copi o'r adroddiad —
(a)at unrhyw berson neu i unrhyw gorff a oedd yn destun yr ymchwiliad;
(b)i'r Cynulliad Cenedlaethol; ac
(c)yn achos ymchwiliad sy'n ymwneud â darparydd gwasanaeth, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
(3) Ar ôl i ymchwiliad ym mhob achos arall ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r person neu'r corff a oedd yn destun yr ymchwiliad ac anfon copi o'r adroddiad —
(a)i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)yn achos ymchwiliad sy'n ymwneud â darparydd gwasanaeth, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
(4) Rhaid i adroddiad a wneir o dan baragraffau (1) i (3) nodi —
(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiwn;
(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiwn.
14.—(1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs ymchwiliad y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw —
(a)unrhyw un o'r personau neu'r cyrff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo; a
(b)y cyhoedd,
caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r ymchwiliad i ben.
(2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) —
(a)unrhyw berson neu gorff sydd yn destun yr ymchwiliad;
(b)y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)yn achos lle darparydd gwasanaeth yw testun yr ymchwiliad, y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol.
(3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan paragraff (1) —
(a)at unrhyw berson neu i unrhyw gorff sydd yn destun yr ymchwiliad;
(b)i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c)mewn achos lle mae paragraff (2)(c) yn gymwys, i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol; ac
(ch)i unrhyw gorff GIG neu ddarparydd gwasanaeth neu at berson neu i gorff arall sy'n arfer swyddogaethau statudol, y mae'r Comisiwn yn credu y byddant yn cael copi ohono.
15.—(1) Pan ddaw ymchwiliad i ben rhaid i unrhyw gorff GIG, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.
(2) Yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth GIG, bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Cyn penderfynu ynghylch cymeradwyo datganiad a baratoir o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys