- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr un ystyr ag “adoption agency” yn Neddf Mabwysiadu 1976(1);
mae i “credyd treth plant” yr un ystyr â “child tax credit” yn Neddf Credydau Treth 2002 (2));
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “defnyddiwr gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services user”) yw person a bennir yn yr Atodlen;
mae “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) i'w dehongli yn unol â rheoliad 3(1);
ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu yn ysgrifenedig;
mae i “plentyn sydd yn derbyn gofal” yr un ystyr ag “a child who is looked after” yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(3);
ystyr “Rheoliadau 1983” (“the 1983 Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(4);
ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person —
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 11(1) o Reoliadau 1983 y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn;
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydaf ef i'w fabwysiadu;
sydd wedi hysbysu ei fwriad, o dan adran 22(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976, i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn; neu
sydd wedi mabwysiadu plentyn,
ond nid yw'n cynnwys person os nad yw'r plentyn bellach yn blentyn, neu os yw'r person yn llys-riant neu'n rhiant naturiol y plentyn, neu a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn; ac
ystyr “teulu mabwysiadol” (“adoptive family”) yw plentyn mabwysiadol, rhiant mabwysiadol y plentyn mabwysiadol, unrhyw blentyn i'r rhiant mabwysiadol ac y mae cyfeiriadau at deulu mabwysiadol person neu gyfeiriadau neu mewn perthynas â theulu mabwysiadol person, i'w dehongli fel y teulu mabywsiadol y mae'r person hwnnw yn aelod ohono.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (b), ystyr “plentyn mabwysiadol” yw plentyn a fabwysiadwyd, neu blentyn y gellir ei fabwysiadu;
(b)mae cyfeiriadau at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiradau at blentyn heblaw llysblentyn, a fabwysiadwyd, neu y mae caniatâd i'w fabwysiadu, gan y person hwnnw.
(3) Yn rheoliadau 8 i 15, ystyr “plentyn” (“child”) yw plentyn mabwysiadol, ac mae cyfeiriadau at blentyn person yn gyfeiriadau at blentyn, heblaw llysblentyn y person, a fabwysiadwyd neu y mae caniatâd i'w fabwysiadu gan y person hwnnw.
Gan adran 1(4) o Ddeddf Mabwysiadu 1976, caniateir cyfeirio at awdurdod lleol neu gymdeithas fabwysiadu briodol fel asiantaeth fabwysiadu. Diffiniwyd y term “appropriate voluntary organisation” yn adran 1(5) o Ddeddf 1976, fel y'i mewnosodwyd gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac Atodlen 4, paragraff 5 iddi, t.14.
O.S. 1983/1964, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/649, O.S. 1983/2308 ac O.S. 2001/2237.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys