xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 14LL+CDatgymhwyso a Dirymu

Datgymhwyso'r darpariaethau sy'n bodoli eisoesLL+C

67.—(1Ni fydd Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980(1) yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, ac eithrio'r cynhyrchion y cyfeiriwyd atynt yn Rheoliad 4(3).

(2Ni fydd y canlynol yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt—

(a)Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1984(2); a

(b)rheoliadau 2, 3 i 8, 28 i 39 a 40(1) o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(3) ac Atodlen 4 a Rhan I o Atodlen 5 i'r Rheoliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 67 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

DirymuLL+C

68.  Dirymir y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 6, i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, yn y modd y nodir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 68 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1

(1)

O.S. 1980/14, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1982/948, 1990/2371, 1994/2920 a 1994/3142, ac o'i ddarllen ynghyd ag O.S. 1997/322.

(2)

O.S. 1984/1918, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2371, 1997/2537 a 2000/656.

(3)

O.S. 1996/3124. O.S. 1997/3023 a 2000/656 yw'r diwygiadau perthnasol.