Rhoi cynhyrchion wrth fannau archwilio ar y ffinLL+C
18.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch sy'n cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru ac sy'n cael ei gyflwyno i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynol neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin y rhoddwyd hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch i'r man hwnnw yn unol â rheoliad 17.
(2) Pan fydd man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 yn y Deyrnas Unedig a'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch iddo yn unol â rheoliad 17.
(3) Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, yn unol â pharagraff (1) neu (2) roi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud ag ef a'r rheini'n ddogfennau sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.
(4) Rhaid i berson sydd yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn rhoi cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi cyfieithiad o'r ddogfen ofynnol i'r Gymraeg neu'r Saesneg yr un pryd, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigydd â chymhwyster priodol wedi cadarnhau mai cyfieithiad cywir ydyw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 18 mewn grym ar 31.5.2004, gweler rhl. 1