Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

RHAN 3Cofrestrau

Cofrestr lwfansau tirlenwi

10.  Rhaid i'r awdurdod monitro sefydlu a chadw cofrestr lwfansau tirlenwi sydd, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff ar gyfer pob blwyddyn gynllun, yn cynnwys—

(a)y lwfans a ddyrannwyd o dan adran 4 o'r Ddeddf;

(b)unrhyw newid yn y lwfans y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (a) o dan adran 5 o'r Ddeddf;

(c)faint o wastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd gwaredu gwastraff gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw; ac

(ch)balans y canlynol:

(i)y lwfans a gofrestrwyd o dan baragraff (a), fel y'i addaswyd gan unrhyw addasiad a gofrestrwyd o dan baragraff (b), (“y lwfans cyfan”); a

(ii)maint y gwastraff trefol pydradwy a anfonwyd i safleoedd tirlenwi gan yr awdurdod gwaredu gwastraff hwnnw fel y'i cofrestrwyd o dan baragraff (c) uchod.

Cofrestr gosbau

11.  Rhaid i'r Cynulliad sefydlu a chadw cofrestr a elwir “y gofrestr gosbau” y mae'n rhaid iddi gynnwys, mewn perthynas â phob awdurdod gwaredu gwastraff, yr wybodaeth ganlynol—

(a)unrhyw adeg lle'r oedd yr awdurdod hwnnw yn agored i gosb o dan Ran 1, Pennod 1 o'r Ddeddf;

(b)swm y gosb;

(c)y dyddiad y mae'r gosb i fod i gael ei thalu;

(ch)swm unrhyw log y parwyd ei godi o dan reoliad 15;

(d)manylion unrhyw benderfyniad—

(i) i estyn yr amser ar gyfer talu'r cyfan neu ran o'r gosb neu unrhyw log arni o dan adran 26(1)(c)(i) o'r Ddeddf;

(ii)i ryddhau'r awdurdod gwaredu gwastraff, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, rhag bod yn agored i'r gosb gyfan neu ran ohoni neu unrhyw log arni o dan adran 26(1)(c)(ii) o'r Ddeddf; ac

(dd)y dyddiad y cafodd unrhyw daliad o ran cosb neu log ar gosb ei wneud i'r Cynulliad.

Argaeledd cofrestrau

12.  O ran unrhyw gofrestr sy'n cael ei chadw o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod perthnasol—

(a)trefnu bod y gofrestr a gedwir ganddo o dan y Rhan hwn ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd yn ei brif swyddfa yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol; a

(b)rhoi cyfleusterau i aelodau'r cyhoedd gael copïau o gofnodion yn y gofrestr honno drwy dalu ffi resymol.