Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2Cynigion a wneir o dan adran 113A

Newidiadau y ceir gwneud cynigion ar eu cyfer

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r disgrifiadau o newidiadau i ysgolion a gynhelir at ddibenion adran 113A(4)(b).

(2Dyma'r disgrifiadau o'r newidiadau —

(a)ehangu mangre sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed a fyddai'n cynyddu lleoedd mewn ysgol gan 25% neu fwy;

(b)ehangu mangre unrhyw ysgol uwchradd arall gyda'r bwriad o greu cynnydd o 25% neu fwy yn nifer y disgyblion y rhoddir addysg chweched dosbarth iddynt yn yr ysgol;

(c)newid terfyn uchaf oedran ysgol fel y bydd —

(i)yr ysgol yn darparu addysg chweched dosbarth, neu

(ii)yr ysgol yn peidio â darparu addysg chweched dosbarth; neu

(ch)newid yn nherfyn uchaf oedran ysgol (sy'n derfyn uwch na'r oedran ysgol gorfodol) o flwyddyn neu fwy (na ddaw o fewn is-baragraff (c) uchod).

Ymgynghori

4.  Cyn gwneud cynigion o dan adran 113A rhaid i'r Cyngor ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried sy'n briodol, yn nodi'r ystyriaethau a arweiniodd at y cynnig a'r dystiolaeth gefnogol.

Cyhoeddi'r cynigion

5.—(1Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad o unrhyw gynigion a wna o dan adran 113A yn y dull a bennir ym mharagraffau (2) a (3) isod, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1.

(2Os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad —

(a)drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal i'w gwasanaethu gan yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol y cynigir a ddylai gynnal yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol arbennig; a

(b)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno.

(3Os yw'r cynigion ar gyfer gwneud newid i ysgol a gynhelir neu gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad —

(a)drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal a wasanaethir gan yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol arbennig;

(b)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; ac

(c)drwy ei arddangos wrth brif fynedfa'r ysgol neu gerllaw iddi neu, os oes mwy nag un prif fynedfa, y cyfan ohonynt.

(4Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y personau canlynol —

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)corff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion (ac eithrio os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed);

(c) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir iddo gynnal, unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion;

(ch)unrhyw awdurdod addysg lleol cyffiniol;

(d)y Bwrdd Addysg Esgobaethol (neu gorff arall sy'n gyfrifol am addysg) ar gyfer unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac Esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig, y mae unrhyw rhan ohonynt o fewn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir a ddylai gynnal yr ysgol arfaethedig;

(dd)personau eraill y mae'r Cyngor yn barnu sy'n briodol.

(5Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor hefyd anfon copi o'r hysbysiad at —

(a)bob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(c)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae'r ysgol yn ei ardal; ac

(ch)unrhyw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd â chyfrifoldeb dros berchenogaeth neu reolaeth unrhyw ysbyty neu sefydliad arall neu gyfleusterau eraill yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

(6Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig arfaethedig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (5).

(7Yn y rheoliad hwn mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Deddf Addysg 1996.

Gwrthwynebu cynigion

6.  Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig i gynigion a wnaed o dan adran 113A i'r Cyngor o fewn dau fis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.

Cyflwyno cynigion etc. i'r Cynulliad Cenedlaethol

7.  O fewn mis ar ôl diwedd y cyfnod y ceir gwrthwynebu o dan reoliad 6 rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)copïau o bob gwrthwynebiad a gafwyd yn unol â rheoliad 6 (heblaw gwrthwynebiadau a dynnwyd yn ôl yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod a grybwyllir yn y rheoliad hwnnw), ynghyd â'i sylwadau arnynt; a

(b)yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol brif ffrwd;

(c)yr wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol arbennig;

(ch)yr wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os cynigir cau'r chweched dosbarth; neu

(d)yr wybodaeth a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r cynigion ar gyfer ehangu mangre chweched dosbarth presennol neu sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed neu ar gyfer darparu addysg chweched dosbarth ychwanegol neu sefydlu chweched dosbarth newydd.

Tynnu cynigion yn ôl

8.  Caiff y Cyngor dynnu cynigion yn ôl ar unrhyw adeg cyn y penderfynir arnynt o dan adran 113A(4) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r personau canlynol o bob penderfyniad a wneir o dan adran 113A —

(a)y Cyngor;

(b)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir iddo gynnal yr ysgol arfaethedig;

(c)os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig bresennol, pob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(ch)corff llywodraethu'r ysgol (ac eithrio os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed);

(d)Bwrdd Addysg Esgobaethol (neu gorff arall sy'n gyfrifol am addysg) ar gyfer unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac Esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig, y mae unrhyw rhan ohonynt o fewn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir a ddylai gynnal yr ysgol arfaethedig; ac

(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (2), pob gwrthwynebydd.

(2Os bydd gwrthwynebiadau i gynnig ar ffurf deiseb (sef dogfen sy'n cynnwys testun un gwrthwynebiad wedi'i llofnodi gan fwy nag un gwrthwynebydd) gall y Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1) drwy —

(a)hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad ei fod wedi trefnu anfon y ddeiseb at y Cyngor (os rhoddwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw); neu

(b)os nad oes person o'r fath (neu os na roddwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw), hysbysu unrhyw un o'r gwrthwynebwyr y mae ei enw'n ymddangos ar y ddeiseb.

(3Dim ond os yw'r Cyngor wedi cydsynio i addasiadau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cynigion gydag addasiadau.

Gweithredu'r cynigion

10.—(1Rhagnodir y Cyngor at ddibenion paragraff 1(3) o Atodlen 7A (sy'n darparu y caiff personau a ragnodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion neu bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i achlysur ddigwydd).

(2At ddibenion paragraffau 1(3) a (4) o Atodlen 7A (sy'n darparu ar ôl iddo ymgynghori â phersonau rhagnodedig caiff y Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion a gymeradwywyd, pennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i achlysur ddigwydd, neu benderfynu na ddylai paragraff 1(2) o Atodlen 7A fod yn gymwys) rhagnodwyd y personau canlynol —

(a)y Cyngor;

(b)corff llywodraethu ysgol (neu, yn achos cynnig i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed y corff llywodraethu dros dro yn ystyr Deddf 1998 neu Ddeddf 2002);

(c)yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu y bwriedir iddo gynnal, yr ysgol; a

(ch)os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, pob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill