xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Cynigion a wneir o dan adran 113A

Cyhoeddi'r cynigion

5.—(1Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad o unrhyw gynigion a wna o dan adran 113A yn y dull a bennir ym mharagraffau (2) a (3) isod, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1.

(2Os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad —

(a)drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal i'w gwasanaethu gan yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol y cynigir a ddylai gynnal yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol arbennig; a

(b)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno.

(3Os yw'r cynigion ar gyfer gwneud newid i ysgol a gynhelir neu gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad —

(a)drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal a wasanaethir gan yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol arbennig;

(b)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; ac

(c)drwy ei arddangos wrth brif fynedfa'r ysgol neu gerllaw iddi neu, os oes mwy nag un prif fynedfa, y cyfan ohonynt.

(4Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y personau canlynol —

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)corff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion (ac eithrio os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed);

(c) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir iddo gynnal, unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion;

(ch)unrhyw awdurdod addysg lleol cyffiniol;

(d)y Bwrdd Addysg Esgobaethol (neu gorff arall sy'n gyfrifol am addysg) ar gyfer unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac Esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig, y mae unrhyw rhan ohonynt o fewn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir a ddylai gynnal yr ysgol arfaethedig;

(dd)personau eraill y mae'r Cyngor yn barnu sy'n briodol.

(5Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor hefyd anfon copi o'r hysbysiad at —

(a)bob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(c)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae'r ysgol yn ei ardal; ac

(ch)unrhyw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd â chyfrifoldeb dros berchenogaeth neu reolaeth unrhyw ysbyty neu sefydliad arall neu gyfleusterau eraill yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

(6Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig arfaethedig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (5).

(7Yn y rheoliad hwn mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Deddf Addysg 1996.