- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 5
1. Datganiad bod y cynigion yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor.
2. Manylion o'r amcan neu'r amcanion perthnasol a nodir yn adran 113A y bwriedir i'r cynigion eu hybu a manylion o sut y byddai'r cynigion yn hybu'r amcan neu'r amcanion a nodwyd.
3. Y dyddiad y bwriedir gweithredu'r cynigion neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, y dyddiad y bwriedir gweithredu pob cam.
4. Os cynigion ydynt i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed neu i newid terfyn uchaf oedran yr ysgol fel y bydd yr ysgol yn darparu addysg chweched dosbarth —
(a)gwybodaeth am nifer y myfyrwyr y darperir addysg chweched dosbarth ar eu cyfer;
(b)y terfyn uchaf oedran ysgol a gynigir; a
(c)y trefniadau arfaethedig ar gyfer cludo disgyblion i'r ysgol.
5. Dadansoddiad o effaith hirdymor y cynigion ar yr ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi.
6. Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol â chymeriad crefyddol, manylion y grefydd neu 'r enwad crefyddol o dan sylw.
7. Os bydd y cynigion yn cael yr effaith y bydd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addysg chweched dosbarth i ddod i ben, manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y gall myfyrwyr sydd yn yr ysgol ac y mae'r ddarpariaeth ar eu cyfer i ddod i ben eu mynychu, gan gynnwys unrhyw drefniadau dros dro.
8. Y trefniadau arfaethedig i gludo'r disgyblion hynny i ysgolion eraill neu golegau addysg bellach.
9. Manylion unrhyw fesurau eraill y bwriedir eu cymryd i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion neu golegau addysg bellach sydd ar gael yn sgil y bwriad i ddod â'r darpariaethau i ben.
10. Ac eithrio os yw'r cynigion —
(a)i gau ysgol;
(b)i newid terfyn uchaf oedran yr ysgol fel y bydd yr ysgol yn peidio â darparu addysg chweched dosbarth; neu
(c)yn ymwneud ag ysgol arbennig;
mae nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol (neu, yn ôl y digwydd, i'r ysgol newydd) ym mhob grŵ p oedran chweched dosbarth perthnasol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd y cynigion ynddi neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn felly yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd pob un o'r camau.
11. Os cynigion ydynt i newid ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, datganiad a yw'r cynigion i'w gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu ac, os yw'r cynigion i'w gweithredu gan y ddau, datganiad ar i ba raddau y mae'r ddau gorff i'w gweithredu.
12. Datganiad y bydd gofyn i'r cynnig gael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
13. Datganiad o effaith rheoliad 6 gan gynnwys y cyfeiriad y dylid anfon gwrthwynebiad i'r cynigion iddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: