xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
15. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn oddi wrth Aelod-wladwriaeth (boed yn ymateb i gais a wnaed gan y Deyrnas Unedig yn y cyswllt hwnnw o dan Gyfarwyddeb Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni neu beidio) gopi o gynllun drafft neu raglen ddrafft —
(a)sy'n cael ei baratoi mewn perthynas ag unrhyw ran o'r Aelod-wladwriaeth honno; a
(b)y mae eu gweithredu yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd unrhyw rhan o'r Deyrnas Unedig,
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon unrhyw wybodaeth y mae'n ei derbyn at yr Ysgrifennydd Gwladol.