Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

Rhagor o Adnoddau

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 2 Awst 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac maent yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Lloegr a Chymru) (Diwygio) 2004(2)).

Cymhwyso Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: Cymru

3.—(1Mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf (a fewnosodwyd gan Reoliadau 2004) yn peidio, fel bod y diwygiadau i Ran 1 o'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 a 4 o Reoliadau 2004 ac sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys hefyd i Gymru.

(2Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(3) i'r Ddeddf i'w drin fel petai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2004 a'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill