xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1742 (Cy.181)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004

Wedi'u gwneud

6 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2004.

(2Yn y rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) neu “aelodau” (“members”) yw person neu bersonau a benodwyd gan y Cynulliad yn unol ag adran 2(2) o'r Ddeddf, gan gynnwys y cadeirydd onid yw'r cyd-destun yn ei eithrio;

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) neu “aelodau cyfetholedig” (“co-opted members”) yw person neu bersonau a benodwyd gan y Ganolfan yn unol â rheoliad 2(4);

ystyr “cadeirydd” (“chair”) yw person a benodwyd gan y Cynulliad yn unol ag adran 2(3) o'r Ddeddf;

ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd, Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003; ac

ystyr “y Ganolfan” (“the Centre”) yw Canolfan Iechyd Cymru neu the Wales Centre for Health (2).

RHAN 1Aelodaeth

Aelodaeth y Ganolfan

2.—(1Bydd y Ganolfan yn cynnwys dim mwy na 12 aelod wedi'u penodi gan y Cynulliad.

(2Wrth benodi aelodau, bydd y Cynulliad yn ystyried pa mor ddymunol fydd penodi personau sydd â phrofiad, ac sydd wedi dangos cymhwysedd, yn rhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Ganolfan.

(3Y Cynulliad fydd yn penodi'r cadeirydd (a fydd yn aelod o'r Ganolfan) a chaiff, os gwêl yn dda, benodi un o'r aelodau eraill yn is-gadeirydd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y Ganolfan o dro i dro benodi aelodau cyfetholedig y mae'n ymddangos iddi ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn i'r Ganolfan gyflawni ei swyddogaethau.

(5Rhaid i nifer yr aelodau cyfetholedig beidio â bod yn fwy na nifer yr aelodau oni chafodd y Ganolfan ganiatâd ysgrifenedig y Cynulliad i fynd dros y nifer hwn.

Deiliadaeth swydd cadeirydd ac aelodau eraill

3.—(1Cyfnodau swydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau eraill y Ganolfan fydd y cyfnodau a bennir gan y Cynulliad wrth benodi ond fel arfer ni fydd yn fwy na chyfnod o bum mlynedd ar y mwyaf.

(2Cyfnod swydd aelod cyfetholedig fydd y cyfnod a bennir gan y Ganolfan wrth benodi ond fel arfer ni fydd yn fwy na chyfnod o ddwy flynedd.

Terfynu deiliadaeth swydd

4.—(1Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef iddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad.

(2Caiff aelod cyfetholedig ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef iddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Ganolfan.

(3Y dyddiad y bydd ymddiswyddiad drwy hysbysiad yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn effeithiol fydd—

(a)os pennwyd dyddiad yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yr ymddiswyddiad yn effeithiol, yna'r dyddiad hwnnw; a

(b)yn unrhyw achos arall, y dyddiad pan gaiff y Cynulliad neu'r Ganolfan yr hysbysiad.

(4Yn achos aelod sydd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd, rhaid i'r ymddiswyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ddatgan os yw mewn perthynas â phenodiad yr aelod yn gadeirydd neu is-gadeirydd yn unig a chaiff y Cynulliad ganiatáu i'r person hwnnw barhau fel aelod am y cyfnod sydd heb ddirwyn i ben o gyfnod gwreiddiol y penodiad fel cadeirydd neu is-gadeirydd.

(5Os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw person a benododd yn gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o'r Ganolfan yn ffit neu fel arall yn alluog i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno, caiff y Cynulliad derfynu deiliadaeth y person hwnnw o'r swydd ar unwaith drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw.

(6Os bydd y Cynulliad wedi'i fodloni bod aelod wedi bod yn absennol o 3 chyfarfod olynol o'r Ganolfan, caiff y Cynulliad derfynu deiliadaeth y swydd gan y person hwnnw ar unwaith onid yw wedi'i fodloni—

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd yr aelod yn gallu mynychu cyfarfodydd y Ganolfan o fewn y cyfryw gyfnod y mae'r Cynulliad yn ei ystyried sy'n rhesymol.

(7Os cafodd person ei benodi'n aelod o'r Ganolfan gan y Cynulliad —

(a)os daw i sylw'r Cynulliad fod y person wedi'i ddatgymhwyso rhag cael ei benodi o dan reoliad 5, rhaid i'r Cynulliad ar unwaith hysbysu'r person hwnnw o'r datgymhwysiad drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw; neu

(b)os daw i sylw'r Cynulliad fod y person wedi'i ddatgymhwyso pan gafodd ei benodi, rhaid i'r Cynulliad ddatgan na chafodd y person ei benodi'n briodol a hysbysu'r person hwnnw yn ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw,

a, phan ddaw'r hysbysiad hwnnw i law, bydd deiliadaeth swydd y person hwnnw, os oes un, yn terfynu a bydd yn peidio â bod yn aelod.

(8Mae paragraffau (5) i (7) yn gymwys i aelodau cyfetholedig fel pe bai pob cyfeiriad at aelod yn gyfeiriad at aelod cyfetholedig a phob cyfeiriad at y Cynulliad yn gyfeiriad at y Ganolfan.

Datgymhwyso rhag penodi

5.  Yn ddarostyngedig i reoliad 6, datgymhwysir person rhag cael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig —

(a)os cafodd y person hwnnw, yn y pum mlynedd flaenorol, ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig o dramgwydd neu os collfarnwyd ef yn rhywle arall o dramgwydd a fyddai, pe cyflawnid ef yn unrhyw ran o'r y Deyrnas Unedig yn dramgwydd troseddol yn y rhan honno, ac yn y naill achos neu'r llall a gafodd ei ddedfrydu i gyfnod o garchar (os cafodd ei atal ai peidio) am gyfnod dim llai na thri mis heb gael y dewis o ddirwy, ac na chafodd ei ddiddymu ar apêl;

(b)os cafodd y person hwnnw ei farnu'n fethdalwr neu os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr;

(c)os cafodd y person hwnnw ei ddiswyddo (heb gael ei ailsefydlu), oherwydd camymddwyn o unrhyw gyflogaeth am dâl ac na fu'r diswyddiad hwnnw yn destun canfyddiad o ddiswyddiad annheg neu gamddiswyddiad gan dribiwnlys neu lys;

(ch)os cafodd y person hwnnw ei aelodaeth fel cadeirydd, is-gadeirydd, cyfarwyddwr neu aelod o gorff gwasanaeth iechyd, ei derfynu am reswm heblaw anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff, neu am i gyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi ddod i ben;

(d)os cafodd y person ei ddatgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol o dan adrannau 17(2)(b) neu 18(7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(3) (aelodau o awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am dynnu neu awdurdodi gwariant anghyfreithlon neu a achosodd golled neu ddiffyg drwy gamymddygiad bwriadol);

(dd)os cafodd y person hwnnw ei symud—

(i)o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusen neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu'r elusen yr oedd y person hwnnw'n gyfrifol amdani neu yr oedd yn gyfrannog ohoni, neu y cyfrannodd y person hwnnw iddi neu a hwylusodd er ei mwyn, neu

(ii)o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (yr Alban) 1990(4) (pwerau Llys y Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau) rhag ymwneud â rheoli neu lywio unrhyw gorff.

Diwedd datgymhwysiad

6.—(1At ddibenion rheoliad (5)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu fydd y dyddiad y mae'r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwnaed apêl neu gais o'r fath, y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad pan roddir y gorau iddynt neu os metha oherwydd na chaiff yr apêl ei herlyn neu'r cais ei erlyn.

(2At ddibenion rheoliad (5)(c), ni fernir bod person wedi bod mewn cyflogaeth am dâl yn unig oherwydd ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd, cyfarwyddwr neu aelod o unrhyw gorff gwasanaeth iechyd.

(3Os datgymhwyswyd person oherwydd rheoliad 5(b) —

(a)os dirymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi fel aelod ar ddyddiad y dirymiad;

(b)os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi fel aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)os telir dyledion person yn llawn ac yntau wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi fel aelod ar y dyddiad y talwyd y dyledion hynny'n llawn; ac

(ch)os bydd person wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi fel aelod ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad pan gyflawnwyd telerau'r weithred gyfansoddiad neu drefniant.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw person yn anghymwys oblegid rheoliad (5)(c), caiff y person hwnnw, ar ôl dwy flynedd o leiaf ar ôl dyddiad y diswyddo o'r gyflogaeth, wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i ddileu'r anghymhwyster, a chaiff y Cynulliad gyfarwyddo y bydd yr anghymhwyster hwnnw yn dod i ben.

(5Os bydd y Cynulliad yn gwrthod dileu datgymhwysiad, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau gyda dyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(6Os caiff person ei ddatgymhywso oblegid rheoliad 5(ch), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi fel aelod ar ôl dwy flynedd o ddyddiad terfyniad yr aelodaeth neu am gyfnod hirach y gallai y corff gwasanaeth iechyd a derfynodd yr aelodaeth ei bennu, ond caiff y Cynulliad, pan wneir cais iddo yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod y datgymhwysiad.

(7Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys i aelodau cyfetholedig fel pe bai pob cyfeiriad at y Cynulliad yn gyfeiriad at y Ganolfan.

RHAN 2Trafodion a threfniadau gweinyddol

Penodi is-gadeirydd

7.—(1Os na phenodwyd is-gadeirydd gan y Cynulliad, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr aelodau benodi un o'u plith yn is-gadeirydd am gyfnod nad yw'n hirach na'i gyfnod gwreiddiol yn aelod, yn ôl yr hyn a bennir ganddynt.

(2Caiff unrhyw aelod a benodwyd yn y modd hwnnw ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r cadeirydd.

(3Rhaid i aelod sy'n ymddiswyddo yn unol â pharagraff (2) anfon copi o'r hysbysiad ysgrifenedig at y Cynulliad.

(4Y dyddiad y bydd ymddiswyddiad yn unol â pharagraff (2) yn effeithiol fydd—

(a)os pennwyd dyddiad yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yr ymddiswyddiad yn effeithiol, yna'r dyddiad hwnnw; a

(b)yn unrhyw achos arall, y dyddiad pan ddaw'r hysbysiad i law'r cadeirydd.

Pwerau is-gadeirydd

8.  Os digwydd y canlynol—

(a)bod aelod a benodwyd yn is-gadeirydd naill ai gan y Cynulliad neu'n unol â rheoliad 7, a

(b) bod y cadeirydd wedi marw neu wedi peidio â dal y swydd, neu os na all gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb o'r Deyrnas Unedig neu unrhyw achos arall,

rhaid i'r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y penodir cadeirydd newydd neu nes bydd y cadeirydd ar y pryd yn ysgwyddo dyletswyddau'r cadeirydd yn ôl y digwydd, ac ystyrir y bydd cyfeiriadau at y cadeirydd, tra nad oes cadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau'r cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau

9.—(1Caiff y Ganolfan benodi pwyllgorau'r Ganolfan sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn cynnwys aelodau o'r Ganolfan.

(2Cynhelir cyfarfodydd a thrafodion pwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn yn unol â'r rheolau sefydlog a wneir gan y Ganolfan.

(3Caiff pwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y rheolau sefydlog a wneir gan y Ganolfan, benodi is-bwyllgorau sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn cynnwys aelodau o'r pwyllgor.

Cyfarfodydd a thrafodion

10.—(1Rhaid cynnal cyfarfodydd a thrafodion y Ganolfan yn unol â'r rheolau a nodir yn yr Atodlen i hyn ac yn unol â'r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i'r rheolau hynny, rhaid i'r Ganolfan wneud, a chaiff amrywio neu ddirymu, rheolau sefydlog ar gyfer rheoli ei drafodion a'i fusnes

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Rheoliad 10

YR ATODLEN

Rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion y Ganolfan

1.  Cynhelir cyfarfod cyntaf y Ganolfan ar ddiwrnod ac mewn man y caiff y Cynulliad ei bennu a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

2.—(1Caiff y cadeirydd alw cyfarfod y Ganolfan ar unrhyw adeg ond rhaid iddo sicrhau bod o leiaf dri chyfarfod o'r Ganolfan yn cael eu cynnull yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn unrhyw flwyddyn ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

(2Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod wedi i gais at y diben hwnnw, a lofnodwyd gan o leiaf draean o'r aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n gwrthod, ond nad yw'n galw cyfarfod o fewn saith diwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, gall y traean hwnnw neu fwy o'r aelodau alw cyfarfod yn ddiymdroi.

(3Cyn pob cyfarfod o'r Ganolfan, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, yn nodi'r busnes y bwriedir ei drin ynddo, ac wedi'i lofnodi gan y cadeirydd neu gan swyddog o'r Ganolfan a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran gael ei draddodi i bob aelod ac i'r Cynulliad, neu gael ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol aelod o'r fath neu i'r cyfryw gyfeiriad arall a hysbyswyd o flaen llaw gan yr aelod fel ei fod ar gael i aelod o'r fath o leiaf saith niwrnod clir cyn y cyfarfod.

(4Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad i unrhyw aelod neu i'r Cynulliad yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

(5Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan aelodau oherwydd diffyg y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drin yn y cyfarfod heblaw'r hyn a bennir yn yr hysbysiad.

(6Bydd gan gynrychiolydd o'r Cynulliad yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Ganolfan neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a benodir yn unol â rheoliad 9.

(7Ni fydd trafodion y Ganolfan yn annilys drwy unrhyw swydd wag yn ei haelodaeth neu drwy unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod.

3.—(1Mewn unrhyw gyfarfod o'r Ganolfan, y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

(2Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod, yr is- gadeirydd, os oes un wedi'i benodi ac os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

(3Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, bydd yr aelodau sy'n bresennol yn dewis pwy a fydd yn llywyddu.

4.  Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod o'r Ganolfan gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio y cwestiwn ac, os yw'r pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a fydd yn bleidlais fwrw.

5.  Rhaid cofnodi enwau'r cadeirydd, yr aelodau a phersonau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod.

6.  Ni chaiff unrhyw fusnes ei drin mewn cyfarfod o'r Ganolfan onid yw'r nifer sy'n bresennol ddim llai na thraean aelodaeth gyfan y Ganolfan

7.  Caiff cofnodion trafodion cyfarfod y Ganolfan eu llunio a'u cyflwyno er mwyn cael cytundeb arnynt yng nghyfarfod nesaf y Ganolfan, lle cânt, os cytunir arnynt, eu llofnodi gan y person sy'n llywyddu.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Canolfan Iechyd Cymru yn barod er mwyn sefydlu'r Ganolfan.

Mae Canolfan Iechyd Cymru i'w sefydlu yn Ebrill 2005 (pan ddaw, at bob diben, adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 i rym) a bydd ganddi swyddogaethau datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer sicrhau bod gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru ac ymgymryd ag ymchwil a'i gomisiynu i faterion o'r fath a chyfrannu at ddatblygu hyfforddiant yn y materion hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefnau a threfniadau gweinyddol penodol i'r Ganolfan.

(2)

Caiff Canolfan Iechyd Cymru ei sefydlu pan ddaw adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 ac Atodlen 2 iddi i rym (“y Ddeddf”). Daeth adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi i rym at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig ar 20 Hydref 2003 yn unol â Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003 O.S.2003/2660 (Cy.256) (C.102).