- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
23.—(1) Pan fydd darparwr cofrestredig yn unigolyn nad yw'n rheoli'r cynllun, rhaid iddo ef ymweld â phrif swyddfa'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Pan fydd y darparwr cofrestredig yn gorff, rhaid i'r canlynol ymweld â phrif swyddfa'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn —
(a)yr unigolyn cyfrifol;
(b)cyfarwyddwr neu berson arall sy'n gyfrifol am reoli'r cynllun, ar yr amod bod y cyfarwyddwr neu'r person arall yn addas i ymweld â'r swyddfa; neu
(c)cyflogai neu aelod o'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y cynllun, ar yr amod bod y person yn addas i ymweld â'r swyddfa.
(3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith bob chwe mis.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig gynorthwyo gofalwyr lleoliadau oedolion y mae wedi lleoli oedolyn gyda hwy a chynorthwyo'r oedolion hynny i roi'u barn am y cynllun at ddibenion ymweliadau a gynhelir o dan y rheoliad hwn.
(5) Rhaid i'r person sy'n ymweld —
(a)cyfweld â'r gofalwyr lleoliadau oedolion hynny a'r oedolion perthnasol a'u cynrychiolwyr sy'n dymuno cael eu cyfweld at ddibenion yr ymweliad, a rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal yn breifat os yw'r gofalwr neu'r oedolyn yn gofyn am hynny;
(b)archwilio mangre'r swyddfa, ei chofnod o ddigwyddiadau a gedwir o dan baragraff 4 o Atodlen 4 a'i chofnod o gwynion a gedwir o dan baragraff 5 o Atodlen 4; a
(c)llunio adroddiad ysgrifenedig ar sut mae'r cynllun yn cael ei redeg.
(6) Rhaid i gyfweliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(a) gael ei gynnal yng nghartref y gofalwr lleoliad oedolion os yw'r gofalwr neu'r oedolyn yn dymuno hynny.
(7) Rhaid i'r darparwr cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei wneud o dan baragraff (5)(c) i —
(a)rheolwr cofrestredig y cynllun y mae'n rhaid iddo gadw'r adroddiad ym mhrif swyddfa'r cynllun; a
(b)o ran ymweliad o dan baragraff (2) i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: