Rheoliadau 8(3), 9(5), 10, 13(2)(h), 16(3) a 24(2)
ATODLEN 3GWYBODAETH A DOGFENNAU SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Å GOFALWYR LLEOLIADAU OEDOLION, PERSONAU SY'N DARPARU GWASANAETHAU GOFAL AT DDIBENION LLEOLIAD OEDOLION, PERSONAU SY'N DARPARU AC YN RHEOLI CYNLLUNIAU LLEOLI OEDOLION
1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai —
(a)os bydd tystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1)(cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno, tystysgrif record droseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno, a phan fyddant mewn grym, adran 113(3C)(a) a (b) neu adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.
3. Dau dystlythyr, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf os oes un.
4. Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, gwiriad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau'r gwiriad hwnnw ond nad yw ar gael.
5. Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.