xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 249 (Cy.26)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

4 Chwefror 2004

Yn dod i rym yn unol â Rheoliad 1(2)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2) ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 9 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.