Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru) 2004

Diwygio Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000

8.  Yn Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000(1)

(a)Yn rheoliad 2(1) (dehongli) —

(i)yn lle'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 79/112” (“Directive 79/112”) rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “Cyfarwyddeb 2000/13” (“Directive 2000/13”) yw Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod Wladwriaethau ynglŷn â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd stuffs, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC(3), (a ddiwygiwyd ei hun gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/86/EC(4)) ac fel y'i diwygiwyd ymhellach gan Gyfarwyddeb y Comiscwn 2003/89/EC(5);;

(ii)yn y diffiniad o “Rheoliad 1139/98” (“Regulation 1139/98”) yn lle'r ymadrodd “Cyfarwyddeb 79/112/EEC” rhodder yr ymadrodd “Cyfarwyddeb 2000/13”;

(b)yn rheoliad 3(1) (esemptiadau) a rheoliad 9(b) (amddiffyn mewn perthynas ag allforion) yn lle'r ymadrodd “Cyfarwyddeb 79/112” rhodder yr ymadrodd “Cyfarwyddeb 2000/13”.

(2)

OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Corrigendum (OJ Rhif . L124, 25.5.2000, t.66).

(3)

OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19.

(4)

OJ Rhif L305, 7.11.2002, t.19.

(5)

OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15.