xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 4
Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, y mae angen i'r awdurdod addysg lleol ymdrin â hwy yn ei gynllun yw:
1. Cario drosodd o un flwyddyn ariannol i'r llall y gwargedau a'r diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion.
2. Symiau y gellir eu tynnu yn erbyn cyfrannau cyllideb ysgolion.
3. Symiau a gafodd ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer.
4. Gosod amodau gan neu o dan y cynllun y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy mewn perthynas â rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y mae'r awdurdod yn trefnu eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau a ragnodwyd gan reolau a gweithdrefnau ariannol.
5. Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo.
6. Talu llogau gan yr awdurdod neu iddo.
7. Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a phan drefnir pa ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath.
8. Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig.
9. Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c)(1) o Ddeddf 1998.
10. Y defnydd ar gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig.
11. Benthyca gan gyrff llywodraethu.
12. Trefniadau bancio y caiff cyrff llywodraethu eu gwneud.
13. Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998.
14. Datganiad o ran y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun a wnaed gan yr awdurdod at ddibenion adran 519 o Ddeddf 1996(2).
15. Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth.
16. Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu ac iddo.
17. Cynnal a chadw stocrestrau o asedau.
18. Cynlluniau gwario corff llywodraethu.
19. Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud i warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran cyllideb yr ysgol neu £10,000 p'un bynnag sydd fwyaf.
20. Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu.
21. Yswiriant.
22. Defnyddio cyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu fel y byddant yn bodloni dyletswyddau'r awdurdod a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(3).
23. Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu.
24. Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant.
25. Prydau ysgol.
26. At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu wedduster ariannol yn yr ysgol a sut y dylid ymdrin â chwynion o'r fath.
27. Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵ er a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002.
28. Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.
Mae adran 49 i'w diwygio gan baragraff 100(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.
Diwygiwyd adran 519 gan baragraffau 57 a 139 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.