Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002. Maent yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat (rheoliad 4). Yn ychwanegol maent yn nodi'r categorïau o bersonau sydd wedi'u datgymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd. Rhaid i bersonau sydd wedi'u datgymhwyso o dan y Rheoliadau hyn beidio â darparu gofal dydd nac ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd na chael unrhyw fuddiant ariannol ynddi. Rhaid peidio â'u cyflogi ychwaith mewn cysylltiad â darparu gofal dydd. Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer hepgor y datgymhwysiad o dan amgylchiadau penodol gyda'r canlyniad nad ystyrir bod person wedi'i ddatgymhwyso pan fo cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2002, wedi'i roi. Mae Rheoliad 7 yn gosod dyletswydd barhaol ar warchodwyr plant cofrestredig neu ddarparwyr gofal dydd cofrestredig i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw gollfarn ddilynol neu orchymyn dilynol a fyddai'n sail ar gyfer datgymhwyso.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Gyfarwyddiaeth Plant a Theuluoedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn: 02920 825736)