Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 20 Hydref 2004, yn gosod gofynion hysbysu penodol ar bersonau sy'n mewnforio tatws o wlad Pwyl a dyfwyd yn ystod 2003 neu ers hynny.
Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n mewnforio tatws o wlad Pwyl i Gymru, wrth gynnal busnes, roi o leiaf ddau ddiwrnod o hysbysiad yn ysgrifenedig i arolygydd Iechyd Planhigion o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys ynddo fanylion penodol o ran, ymhlith pethau eraill, pa bryd ac ymhle y bwriedir cyflwyno'r tatws i mewn i Gymru (erthygl 3(1)). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd wedi mewnforio tatws felly i Gymru ar ôl 30 Ebrill 2004 ond cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym ddarparu gwybodaeth benodol o natur debyg i arolygydd, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, a hynny heb fod yn hwyrach na 15 Tachwedd 2004 (erthygl 3(2)).
Mae erthygl 4 yn darparu, at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, neu ei orfodi, y caiff arolygydd arfer pwerau penodol a roddir gan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y prif Orchymyn”).
Mae erthygl 5 yn darparu bod person yn euog o dramgwydd os ydyw wedi mynd yn groes i, neu wedi methu â chydymffurfio â, gofyniad a geir yn erthygl 3, a hynny heb esgus rhesymol.