Offerynnau Statudol Cymru
2004 Rhif 2732 (Cy.239)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
19 Hydref 2004
Yn dod i rym
31 Hydref 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer ei bwerau yn adrannau 7(2), 10(2), 11(1) a (3), 12(1), 15(5) a 22 o Ddeddf Caffael Tir 1981 a pharagraffau 2(1) a (3), 3(1) a 6(5) o Atodlen 1 a pharagraff 9 o Atodlen 3 iddi (“y Ddeddf”)(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2):
1981 p.67; mewnosodwyd adrannau 11(3) a 15(5) o'r Ddeddf a pharagraffau 2(3) a 6(5) o Atodlen 1 iddi gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5).
Mae'r pwerau a enwir yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â Chymru, gan mwyaf yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adrannau 118(3) a 122(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.