Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004

Rheoliad 2

ATODLEN 1

Rhan 1Diwygiadau i Atodlen 1

1.  Yn Rhan B mewnosoder ar ôl paragraff 66:

Y SwyddogaethDarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol

67.  Swyddogaethau mewn perthynas â . sefydlu Pwyllgor Trwyddedu

Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).

2.  Yn Rhan I:

(1dileer paragraffau 18, 19; a

(2mewnosoder ar ôl paragraff 17:

SwyddogaethauDarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol

18.  Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur.

Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3).

19.  Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi “priod swyddogion”).

Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

20.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff etc.

Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

21.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

22.  Y ddyletswydd i benderfynu terfyn benthyca fforddadwy.

Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22).

23.  Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau.

Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

24.  Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol.

Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11).

RHAN 2Diwygiadau i Atodlen 2

Ar y diwedd, ychwaneger:

22.  Swyddogaethau ynglyn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —

(a)penderfynu swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(b)penderfynu swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(c)penderfynu swm y mae ei angen i benderfynu swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.

23.  Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.

RHAN 3Diwygiadau i Atodlen 3

1.  Yng ngholofn (2) o'r paragraff ynglyn â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol dileer “92” a mewnosoder “108”.

2.  Dileer y cofnod ynglyn â'r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.

3.  Ar y diwedd, ychwaneger:

(1) Cynlluniau a Strategaethau(2) Cyfeirnod
Y pwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.