- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 2(1), 5(3) ac 8(1)(ch)
1. Grawn syml sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â llaeth neu hylifau maethlon priodol eraill.
2. Grawn â bwyd uchel mewn protein sydd wedi'i ychwanegu ac sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â dwr neu hylif arall heb brotein.
3. Pastau sydd i'w defnyddio ar ôl eu coginio mewn dwr berwedig neu hylifau priodol eraill.
4. Bisgedi caled a bisgedi eraill sydd i'w defnyddio naill ai'n uniongyrchol neu, ar ôl eu malu'n fân, gan ychwanegu dwr, llaeth neu hylifau addas eraill atynt.
Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynnyrch sy'n barod i'w defnyddio, sy'n cael eu marchnata fel y cyfryw neu sydd i'w hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.
1. Mae bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn yn cael eu paratoi'n bennaf o un neu ragor o ydau grawn wedi'u malu a/neu gynhyrchion gwreiddiau startslyd.
Rhaid i gyfanswm yr ydau grawn a/neu'r cynnyrch gwreiddiau startslyd beidio â bod yn llai na 25 y cant o'r cymysgedd terfynol o gymharu pwysau sych y naill a phwysau sych y llall.
2.1. Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 2 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran protein beidio â bod yn fwy nag 1.3 g /100 kJ (5.5 g / 100 kcal).
2.2. Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.48 g /100 kJ (2 g / 100 kcal).
2.3. Yn achos bisgedi a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sydd wedi'u gwneud drwy ychwanegu bwyd uchel mewn protein, ac sy'n cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.36 g /100 kJ (1.5 g / 100 kcal).
2.4. Rhaid i fynegrif cemegol y protein sydd wedi'i ychwanegu fod yn hafal i 80 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol (casein fel y'i diffinnir yn Atodlen 2), neu mae'n rhaid i gymhareb effeithlonrwydd protein (PER) y protein yn y cymysgedd fod yn hafal i 70 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol hwnnw. Ym mhob achos, dim ond at ddibenion gwella gwerth maethol y cymysgedd sy'n cynnwys y protein , a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw y caniateir ychwanegu asidau amino.
3.1. Os yw swcros, ffrwctos, glwcos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I:
rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.8 g / 100 kJ (7.5 g / 100 kcal),
rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.9 g / 100 kJ (3.75 g / 100 kcal).
3.2. Os yw swcros, ffrwctos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:
rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.2 g / 100 kJ (5 g / 100 kcal),
rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.6 g / 100 kJ (2.5 g / 100 kcal).
4.1. Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal).
4.2. Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal). Os yw'r cynnwys o ran braster yn fwy na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal):
(a)rhaid i gyfanswm yr asid lawrig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;
(b)rhaid i gyfanswm yr asid myristig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;
(c)rhaid i gyfanswm yr asid linolëig (ar ffurf glyseridau = linoleadau) beidio â bod yn llai na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal) a pheidio â bod yn fwy na 285 mg / 100 kJ (1200 mg / 100 kcal).
5.1. dim ond at ddibenion technolegol y caniateir ychwanegu halwynau sodiwm at fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn,
rhaid i'r sodiwm sydd wedi'i gynnwys mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn beidio â bod yn fwy na 25 mg /100 kJ (100 mg / 100 kcal).
5.2.1. Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai nag 20 mg /100 kJ (80 mg / 100 kcal).
5.2.2. Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sy'n cael eu gweithgynhyrchu drwy ychwanegu llaeth (bisgedi llaeth) atynt ac yn cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai na 12 mg /100 kJ (50 mg / 100 kcal).
6.1. Yn achos bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn, rhaid i gyfanswm thiamin beidio â bod yn llai na 25 μg / 100 kJ (100 μg / 100 kcal).
6.2. Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:
Mae'r terfynau canlynol yn gymwys:
Mae'r terfynau hyn yn gymwys hefyd os yw fitaminau A a D yn cael eu hychwanegu at fwydydd proses eraill sydd wedi'u seilio ar rawn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys