Rhagolygol
RHAN ILL+CCategorïau o fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn
1. Grawn syml sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â llaeth neu hylifau maethlon priodol eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 Rhn. I para. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1
2. Grawn â bwyd uchel mewn protein sydd wedi'i ychwanegu ac sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â dwr neu hylif arall heb brotein.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 Rhn. I para. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1
3. Pastau sydd i'w defnyddio ar ôl eu coginio mewn dwr berwedig neu hylifau priodol eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 Rhn. I para. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1
4. Bisgedi caled a bisgedi eraill sydd i'w defnyddio naill ai'n uniongyrchol neu, ar ôl eu malu'n fân, gan ychwanegu dwr, llaeth neu hylifau addas eraill atynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 Rhn. I para. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1