xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

Rheoliadau 2(1), 5(3) ac 8(1)(ch)

ATODLEN 1LL+CBWYDYDD SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN

RHAN ILL+CCategorïau o fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn

1.  Grawn syml sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â llaeth neu hylifau maethlon priodol eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 Rhn. I para. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.  Grawn â bwyd uchel mewn protein sydd wedi'i ychwanegu ac sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â dwr neu hylif arall heb brotein.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 Rhn. I para. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.  Pastau sydd i'w defnyddio ar ôl eu coginio mewn dwr berwedig neu hylifau priodol eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 Rhn. I para. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.  Bisgedi caled a bisgedi eraill sydd i'w defnyddio naill ai'n uniongyrchol neu, ar ôl eu malu'n fân, gan ychwanegu dwr, llaeth neu hylifau addas eraill atynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 Rhn. I para. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

RHAN IILL+CCyfansoddiad hanfodol bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn

Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynnyrch sy'n barod i'w defnyddio, sy'n cael eu marchnata fel y cyfryw neu sydd i'w hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Y cynnwys o ran grawnLL+C

1.  Mae bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn yn cael eu paratoi'n bennaf o un neu ragor o ydau grawn wedi'u malu a/neu gynhyrchion gwreiddiau startslyd.

Rhaid i gyfanswm yr ydau grawn a/neu'r cynnyrch gwreiddiau startslyd beidio â bod yn llai na 25 y cant o'r cymysgedd terfynol o gymharu pwysau sych y naill a phwysau sych y llall.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 Rhn. II para. 1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

ProteinLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 Rhn. II para. 2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 2 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran protein beidio â bod yn fwy nag 1.3 g /100 kJ (5.5 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 2.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.48 g /100 kJ (2 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 2.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.3.  Yn achos bisgedi a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sydd wedi'u gwneud drwy ychwanegu bwyd uchel mewn protein, ac sy'n cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.36 g /100 kJ (1.5 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 2.3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

2.4.  Rhaid i fynegrif cemegol y protein sydd wedi'i ychwanegu fod yn hafal i 80 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol (casein fel y'i diffinnir yn Atodlen 2), neu mae'n rhaid i gymhareb effeithlonrwydd protein (PER) y protein yn y cymysgedd fod yn hafal i 70 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol hwnnw. Ym mhob achos, dim ond at ddibenion gwella gwerth maethol y cymysgedd sy'n cynnwys y protein , a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw y caniateir ychwanegu asidau amino.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 2.4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

CarbohydradauLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 Rhn. II para. 3 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.1.  Os yw swcros, ffrwctos, glwcos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I:

  • rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.8 g / 100 kJ (7.5 g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.9 g / 100 kJ (3.75 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 3.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

3.2.  Os yw swcros, ffrwctos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:

  • rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.2 g / 100 kJ (5 g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.6 g / 100 kJ (2.5 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 3.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

BrasterLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 Rhn. II para. 4 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 4.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

4.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal). Os yw'r cynnwys o ran braster yn fwy na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal):

(a)rhaid i gyfanswm yr asid lawrig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;

(b)rhaid i gyfanswm yr asid myristig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;

(c)rhaid i gyfanswm yr asid linolëig (ar ffurf glyseridau = linoleadau) beidio â bod yn llai na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal) a pheidio â bod yn fwy na 285 mg / 100 kJ (1200 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 4.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

MwynauLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

SodiwmLL+C

  • 5.1.  dim ond at ddibenion technolegol y caniateir ychwanegu halwynau sodiwm at fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn,

  • rhaid i'r sodiwm sydd wedi'i gynnwys mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn beidio â bod yn fwy na 25 mg /100 kJ (100 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 5.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

CalsiwmLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 5.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

5.2.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai nag 20 mg /100 kJ (80 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 5.2.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

5.2.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sy'n cael eu gweithgynhyrchu drwy ychwanegu llaeth (bisgedi llaeth) atynt ac yn cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai na 12 mg /100 kJ (50 mg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 5.2.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

FitaminauLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

6.1.  Yn achos bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn, rhaid i gyfanswm thiamin beidio â bod yn llai na 25 μg / 100 kJ (100 μg / 100 kcal).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 6.1 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1

6.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:

  • Mae'r terfynau canlynol yn gymwys:

  • Fesul 100 kJFesul 100 kcal
    IsafswmMwyafswmLleiafswmMwyafswm
    (1)

    RE = pob cyfwerthydd traws-retinol

    (2)

    Ar ffurf colecalsifferol, y mae 10 μg ohono = 400 i.u. o Fitamin D

    Fitamin A (μg RE)(1)144360180
    Fitamin D (μg)(2)0.250.7513
  • Mae'r terfynau hyn yn gymwys hefyd os yw fitaminau A a D yn cael eu hychwanegu at fwydydd proses eraill sydd wedi'u seilio ar rawn.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 6.2 mewn grym ar 6.3.2005, gweler rhl. 1