Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 670 (Cy.63)

LANDLORD A THENANT

Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

9 Mawrth 2004

Yn dod i rym

31 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 98 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig —

(a)mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru;

(b)i achosion lle mae hysbysiad o dan adran 13 (hysbysiad gan denantiaid cymwys o hawliad i arfer hawl i ryddfreinio ar y cyd) neu adran 42 (hysbysiad gan denant cymwys o hawliad i arfer hawl i gaffael les newydd) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn cael ei gyflwyno ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau

3.  Diwygir Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) 1993(3) fel a ganlyn—

(a)dileer paragraff 2 o Atodlen 1; a

(b)yn lle is-baragraff (4)(1) o Atodlen 2 rhodder —

(1) The landlord may require the tenant to deduce his title to his tenancy, by giving him notice within the period of twenty one days beginning with the relevant date..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) 1993 sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn mewn perthynas â hawliadau am ryddfreinio ar y cyd ac adnewyddu Lesddaliad a wneir o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28) (“Deddf 1993”). Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i hawliadau o'r fath a wneir mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym.

Mae'r diwygiadau yn digwydd o ganlyniad i ddiwygiadau a wneir i adrannau 13 a 39 o Ddeddf 1993 gan adran 120 ac Atodlen 14 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) sy'n diddymu'r prawf preswylio yn Neddf 1993: un o'r rheolau cymhwyso i denantiaid sy'n gwneud hawliadau am ryddfreinio ar y cyd ac adnewyddu les. Yn achos hawliad am adnewyddu les, roedd y prawf preswylio yn Neddf 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i bob tenant unigol sy'n gwneud yr hawliad fod wedi meddiannu'r fflat y gwnaed yr hawliad mewn perthynas â hi fel unig gartref neu brif gartref am y deuddeg mis diwethaf neu am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o dair blynedd yn y deng mlynedd diwethaf. Yn achos hawliadau am ryddfreinio ar y cyd, roedd y prawf yn ei gwneud yn ofynnol i ddim llai nag un hanner o'r tenantiaid y gwnaed yr hawliad ar y cyd ganddynt fod wedi meddiannu eu fflatiau fel eu hunig neu eu prif gartref am y deuddeg mis diwethaf neu am gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o dair blynedd yn y deng mlynedd diwethaf.

Mewn perthynas ag adnewyddu les, mae'r prawf wedi'i ddisodli gan ofyniad bod yn rhaid i'r tenant fod wedi bod yn brydleswr hir ar y fflat am ddwy flynedd. Mewn perthynas â rhyddfreinio ar y cyd, nid yw'r prawf wedi'i ddisodli gan neu'i ddiwygio gan unrhyw ofyniad arall.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 98 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.