xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3183 (Cy.299)) (“Rheoliadau 2002”), sy'n gweithredu, o ran Cymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol(1), Cyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm(2) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol(3).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 2002 at ddibenion gweithredu Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynlluniau a rhaglenni penodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd(4).

Mae rheoliad 4 yn ychwanegu dull amgen ar gyfer samplu a mesur PM10 er mwyn iddo gydymffurfio â'r dulliau y darparwyd ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.

(1)

OJ L296, 21.11.1996, t.55, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ L284, 31.10.2003, t.1.

(2)

OJ L163, 29.6.1999, t.41, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/774/EC, OJ L 278, 23.10.2001, t.35.

(3)

OJ L313, 13.12.2000, t.12.

(4)

OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17.