- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) At ddibenion Erthyglau 5 a 13 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw gorff, sefydliad neu ganolfan sydd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal, tynnu'n ôl neu adfer y gymeradwyaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn unol â phwynt 6 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) At ddibenion Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw ganolfan casglu semen neu dîm casglu embryonau sydd wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n bodloni'r amodau sy'n gymwys iddi neu iddo o ran cymeradwyo a chyflawni ei dyletswyddau neu ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai yn unol ag Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn at ddibenion cyflawni'r profion ar gyfer heintiadau Mycoplasma sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC.
(5) Rhaid i'r profion ar gyfer heintiadau Salmonela sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC gael eu cyflawni gan labordai a awdurdodwyd yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod 1993(1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys