Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/05/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005, Adran 6.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
6.—(1) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) i (ch), rhaid i’r materion i’w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl gynnwys—
(a)unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd; a
(b)y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92.
(2) Y trefniadau derbyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw’r trefniadau a gyhoeddir pan fynegwyd unrhyw hoff ddewis gan yr apelydd.
(3) Caiff ystyriaeth o’r mater a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) gynnwys ystyried a yw’r trefniadau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol—
(i)Cod Derbyniadau Ysgol, neu
(ii)Rhan 3 o Ddeddf 1998.
(4) Pan wnaed penderfyniad ar y sail y byddai rhagfarn o’r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o’r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i’w gynnig i blentyn dim ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod un o’r amodau a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys.
(5) Yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—
(a)y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi cydymffurfio â gofynion—
(i)Cod Derbyniadau Ysgol, neu
(ii)Rhan 3 o Ddeddf 1998;
(b)y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi eu gweithredu’n gywir; neu
(c)nid oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi ei wneud o dan amgylchiadau’r achos.
(6) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl roi sylw i’r canlynol—
(a)y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol y dylai’r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a
(b)unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu ynghylch pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hoff ddewis” (“preference”) yw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 86(1) neu adran 86A(1), mewn perthynas â blwyddyn ysgol 2013-2014, a’r blynyddoedd ysgol dilynol.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 6 wedi ei amnewid (1.1.2014) gan Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/2535), rhlau. 1(1), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys