xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5MATERION AMRYWIOL — ASIANTAETHAU

Tramgwyddau

32.—(1Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 8, 12, 16 i 30 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 9(3) o Ddeddf 2002.

(2Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 9 neu 31 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 25(2) o Ddeddf 2000.

(3Caiff yr awdurdod cofrestru ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, am fethiant i gydymffurfio â rheoliad 18 neu 25.