Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

Hysbysu tramgwyddau

9.—(1Pan fo'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol —

(a)dyddiad a lle'r gollfarn;

(b)y tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohoni;

(c)y gosb a osodwyd am y tramgwydd.