xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1629 (Cy.123)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

14 Mehefin 2005

Yn dod i rym

30 Mehefin 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), (17)(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd ynddo bellach(2), wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno at gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005 sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005

2.  Diwygier Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005(4) fel a ganlyn —

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mehefin 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, ac sy'n diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/364 (Cy.31)) (“y prif Reoliadau”), yn darparu ar gyfer gorfodi gofynion —

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) o ran nitrad mewn bwydydd i fabanod a phlant ifanc; a

(b)Rheoliad Comisiwn (EC) Rhif 683/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 o ran afflatocsinau ac ocratocsin A mewn bwydydd i fabanod a phlant ifanc.

2.  Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Rheoliadau'r Comisiwn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1 uchod yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.).

(5)

OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.

(6)

OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.