Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 19/11/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
6. Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae gwastraff yn wastraff peryglus os yw—
(a)wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd(1);
(b)wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu
(c)yn swp penodol o wastraff y penderfynwyd yn unol â rheoliad 8 ei fod yn wastraff peryglus,
ac mae'r term “peryglus” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)
7. Nid yw'r canlynol yn wastraff peryglus—
(a)gwastraff nad yw'n wastraff peryglus yn unol â rheoliad 6; neu
(b)swp penodol o wastraff y penderfynwyd yn unol â rheoliad 9 ei fod yn wastraff nad yw'n beryglus,
ac mae'r ymadrodd “nad yw'n beryglus” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 7 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)
8.—(1) Caiff y Cynulliad, gan ystyried Atodiadau I, II a III a gwerthoedd terfyn y crynodiad yn y Rhestr Wastraffoedd, benderfynu, mewn achosion eithriadol, bod swp penodol o wastraff yng Nghymru—
(a)nad yw wedi'i restru yn y Rhestr Wastraffoedd;
(b)nad yw wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu
(c)sy'n cael ei drin, er ei fod o fath sydd wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, fel gwastraff nad yw'n beryglus yn unol â rheoliad 9(2),
yn amlygu un neu ragor o'r nodweddion peryglus, ac felly ei fod i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff peryglus.
(2) Mae swp penodol o wastraff a gynhyrchwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac nad yw wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd ac y penderfynir am y tro gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweithrediaeth yr Alban, neu Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl y digwydd, ei fod yn wastraff peryglus yn unol ag Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff peryglus yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 8 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)
9.—(1) Caiff y Cynulliad benderfynu, mewn achosion eithriadol, ar sail tystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gan y deiliad, a chan ystyried Atodiadau I, II a III a gwerthoedd terfyn crynodiad yn y Rhestr Wastraffoedd, nad yw swp penodol o wastraff yng Nghymru sydd—
(a)wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd;
(b)wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu
(c)sy'n cael ei drin, er ei fod o fath nad yw wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, fel gwastraff peryglus yn unol â rheoliad 8(2),
yn amlygu unrhyw un o'r nodweddion a restrir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus, ac felly ei fod i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff nad yw'n beryglus yng Nghymru.
(2) Mae swp penodol o wastraff a gynhyrchwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac sydd wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd ac y penderfynir am y tro gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweithrediaeth yr Alban, neu Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl y digwydd, ei fod yn wastraff nad yw'n beryglus yn unol ag Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, i'w drin, yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad a wneir o dan reoliad 8, i bob pwrpas fel gwastraff nad yw'n beryglus yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 9 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)
10.—(1) Caiff y Cynulliad ddirymu penderfyniad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9.
(2) Rhaid i'r Cynulliad, cyn gwneud penderfyniad o dan reoliad 8 neu 9 neu ddirymu penderfyniad o'r fath, ac eithrio os yw o'r farn nad yw'n briodol i wneud hynny oherwydd natur argyfwng neu berygl difrifol, ymgynghori â'r canlynol—
(a)y cyrff angenrheidiol;
(b)deiliad y swp penodol o wastraff; ac
(c)unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo—
(i)bod ganddo fuddiant yn y gwastraff penodol; neu
(ii)yr effeithir arno fel arall yn uniongyrchol gan y penderfyniad.
(3) Rhaid i'r Cynulliad roi hysbysiad o unrhyw benderfyniad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9 neu ddirymiad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9 i'r canlynol—
(a)y cyrff angenrheidiol;
(b)deiliad y swp o wastraff penodol o dan sylw; ac
(c)unrhyw berson yr ymgynghorodd ag ef yn unol â pharagraff (2)(c).
(4) Rhaid rhoi rhesymau yn yr hysbysiad dros y penderfyniad neu'r dirymiad, yn ôl y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 10 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)
11. At ddibenion y Rhan hon, dyma'r “cyrff angenrheidiol”—
(a)yr Asiantaeth;
(b)SEPA;
(c)Yr Ysgrifennydd Gwladol;
(ch)Gweithrediaeth yr Alban;
(d)Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon(2);
(dd)Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch; ac
(e)unrhyw gorff y mae'n ymddangos i'r Cynulliad ei fod yn cynrychioli personau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y penderfyniad perthnasol neu'r dirymiad perthnasol o benderfyniad, yn ôl y digwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 11 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)
Mae gwastraffoedd a restrir yn wastraffoedd peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd yn cael eu hystyried yn beryglus yn unol ag indent cyntaf Erthygl 1.4 o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus.
Mae Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys ei hasiantaeth weithredol, y Gwasanaeth Treftadaeth Amgylcheddol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys