Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5HYSBYSU'R FANGRE

Gofyniad i hysbysu'r fangre

21.—(1Pan fo gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu mewn unrhyw fangre heblaw mangre esempt neu'n cael ei symud oddi yno, rhaid hysbysu'r fangre i'r Asiantaeth yn unol â gofynion y Rhan hon.

(2Mae mangre a hysbyswyd yn briodol i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon yn fangre a hysbyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn am y cyfnod o ddeuddeg mis (“cyfnod yr hysbysiad”) sy'n dechrau ar yr amser effeithiol ac yn dod i ben ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hwnnw o ddeuddeg mis.

(3Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd gwastraff peryglus i hysbysu'r fangre berthnasol yn unol â rheoliadau 24 a 26 os nad yw wedi'i hysbysu fel arall eisoes.

(4Heb leihau effaith paragraff (3), caiff traddodwr, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 25, hysbysu mangre'r safle yn unol â'r rheoliad hwnnw a rheoliad 26.

Gwahardd symud gwastraff peryglus o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esempt

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud, na pheri symud, na chludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre, onid yw'r fangre honno, pan symudir y gwastraff, yn fangre a hysbyswyd neu'n fangre esempt.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i symud neu gludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre os oedd y gwastraff hwnnw wedi'i ddyddodi yn y fangre honno yn groes i adran 33 o Ddeddf 1990 heblaw drwy honni cydymffurfedd â thrwydded rheoli gwastraff neu esemptiad cofrestredig.

Esemptiad rhag y gofyniad i hysbysu

23.—(1Nid oes angen hysbysu mangre esempt i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon.

(2Mae mangre o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), i'r graddau a bennir yn y paragraff hwnnw, yn fangre esempt am y tro—

(a)os cedwir y terfyn cymwys (heblaw mewn perthynas â llong); a

(b)os na symudir gwastraff peryglus o'r fangre gan unrhyw berson heblaw—

(i)cludwr cofrestredig; neu

(ii)cludwr sy'n esempt rhag y gofyniad i gofrestru fel cludwr cofrestredig yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(1).

(3Dyma'r disgrifiadau o fangreoedd—

(a)mangre swyddfa, i'r graddau bod y gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre fel swyddfa;

(b)mangre siop, i'r graddau bod y gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre fel siop;

(c)mangre sy'n cael ei defnyddio ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947(2), i'r graddau bod gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre ar gyfer amaethyddiaeth;

(ch)mangre o ddisgrifiad a restrir—

(i)ym mharagraffau (a) i (e) o adran 75(5) o Ddeddf 1990; neu

(ii)yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992(3),

(d)mangre lle mae cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig yn cael ei gasglu, i'r graddau y mae'r fangre yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw;

(dd)mangre sy'n cael ei defnyddio gan bractis deintyddol, milfeddygol neu feddygol i'r graddau y mae'r fangre yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw; ac

(e)unrhyw long.

Hysbysiad gan gynhyrchydd

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gynhyrchydd gwastraff peryglus hysbysu mangre'r safle i'r Asiantaeth neu, os yw'n gweithredu gwasanaeth symudol ac yn dewis trin mangre'r gwasanaeth fel y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig, mangre'r gwasanaeth—

(a)cyn y tro cyntaf y mae'n cynhyrchu gwastraff peryglus ar fangre'r safle, neu, yn achos hysbysu mangre'r gwasanaeth ar unrhyw un o'r mangreoedd perthnasol ar safle, yn ôl gofynion yr achos;

(b)os oedd y fangre berthnasol cyn hynny yn fangre a hysbyswyd, ond bod cyfnod yr hysbysiad wedi dod i ben, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar fangre'r safle neu unrhyw un o fangreoedd cysylltiedig, yn ôl gofynion yr achos;

(c)pan fo'r fangre yn peidio â bod yn fangre esempt, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar y safle honno; neu

(ch)os bydd y fangre a hysbyswyd yn peidio â bod yn fangre'r gwasanaeth mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig o ran mynd dros y terfynau cymwys y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 30 mewn perthynas â'r fangre gysylltiedig honno, cyn mynd dros y terfynau hynny.

(2Os na ellir yn rhesymol ragweld y bydd gweithgareddau'r cynhyrchydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus, mae paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid yn lle “cyn” bob tro y mae'n digwydd, “cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn”.

Hysbysiad gan draddodwr

25.—(1Rhaid i draddodwr sy'n bwriadu symud, neu beri symud, unrhyw wastraff peryglus o unrhyw fangre hysbysu'r fangre honno i'r Asiantaeth—

(a)os y fangre honno yw mangre'r safle ac os na wyddys pwy yw'r cynhyrchydd, neu os na ellir dod o hyd iddo heb anhwylustod afresymol neu dreuliau afresymol; neu

(b)os na chynhyrchwyd y gwastraff ar y fangre honno.

Darpariaethau cyffredin ynghylch hysbysiadau

26.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys p'un a roddir hysbysiad gan neu ar ran y cynhyrchydd neu'r traddodwr.

(2Gellir rhoi hysbysiad o'r fangre berthnasol yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.

(3Ni cheir rhoi hysbysiad heb gydsyniad yr Asiantaeth fwy nag un mis ymlaen llaw i'r amser y bydd yn effeithiol.

(4Rhaid i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad roi'r wybodaeth ganlynol i'r Asiantaeth—

(a)ei enw a'i gyfeiriad a manylion sut y gellir cysylltu ag ef, ac os yw'n hysbysu ar ran person arall, enw a chyfeiriad y person hwnnw a manylion sut y gellir cysylltu â'r person hwnnw;

(b)cyfeiriad y fangre sy'n cael ei hysbysu;

(c)dosbarthiad y fangre yn unol â'r SIC; ac

(ch)unrhyw wybodaeth arall y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad â'i swyddogaethau monitro symud gwastraff peryglus, neu arolygu yn unol â rheoliad 56 o'r Rheoliadau hyn neu baragraff 13 o Atodlen 4 i Reoliadau 1994.

(5Os bydd unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn unol â pharagraff (4) yn ystod y cyfnod hysbysu, nid yw'r fangre i'w thrin fel mangre sydd wedi'i hysbysu tan fydd yr Asiantaeth wedi cael yr wybodaeth sydd wedi'i diweddaru yn y fath fodd ag i fodloni gofynion paragraff (4).

(6Caiff yr Asiantaeth ragnodi model wedi ei fformadu i hysbysu mangre yn ysgrifenedig ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—

(a)rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r model wedi'i fformadu ar ei gwefan ac mewn modd arall y mae'n ystyried sy'n briodol i hysbysu personau y mae'n ofynnol iddynt hysbysu'r fangre o'i gynnwys; a

(b)nid yw'r Asiantaeth yn gorfod ystyried unrhyw hysbysiad oni chafodd ei wneud yn y model hwnnw a fformadwyd, neu mewn fformat ag effaith sylweddol debyg.

(7Rhaid i'r person sy'n hysbysu dalu i'r Asiantaeth y ffi berthnasol sy'n daladwy ar gyfer hysbysu'r fangre ar yr un pryd ag y rhoddir yr hysbysiad (ond nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy mewn perthynas â gwybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (5)).

(8Os gofynnir iddi wneud hynny, rhaid i'r Asiantaeth hysbysu person sy'n ddeiliad gwastraff peryglus neu sy'n cynnal busnes traddodi neu gasglu gwastraff peryglus p'un a yw unrhyw fangre lle mae'r person hwnnw yn bwriadu symud, peri symud neu gludo unrhyw wastraff peryglus yn fangre a hysbyswyd, ac os felly, y manylion sydd gan yr Asiantaeth ynghylch y person a hysbysodd y fangre ac amser effeithiol yr hysbysiad.

Cod mangre

27.—(1Pan hysbysir mangre berthnasol yn briodol i'r Asiantaeth, a bod yr Asiantaeth yn cael y ffi berthnasol, rhaid iddi wrth ei derbyn ddyroddi i'r person sy'n hysbysu god cofrestru, sef cod unigryw ar gyfer y fangre honno (“cod mangre”).

(2Caniateir i'r cod mangre gynnwys llythrennau, Rhif au neu symbolau, neu unrhyw gyfuniad o lythrennau, Rhif au a symbolau.

Yr amser effeithiol

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o'r Rheoliad hwn a heb leihau effaith rheoliad 26(3), yr amser y mae'r hysbysiad yn cymryd effaith (“yr amser effeithiol”) yw—

(a)os oes cyfnod o hysbysiad blaenorol yn parhau mewn grym, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben;

(b)os yw'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gofyn am ddyddiad ar gyfer cychwyn, ar ddechrau'r dyddiad y gofynnwyd amdano;

(c)ym mhob achos arall, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod busnes ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(2Ni all hysbysiad ddod yn effeithiol cyn yr amser y bydd yr Asiantaeth yn dyroddi'r cod mangre ar gyfer y cyfnod y mae'r hysbysiad yn ymdrin ag ef.

Gwasanaethau symudol

29.—(1Os yw cynhyrchydd gwastraff peryglus yn gweithredu gwasanaeth symudol, y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig yw mangre y mae paragraff (2) yn gymwys iddi (“mangre'r gwasanaeth”) tra gweithredir y gwasanaeth symudol hwnnw o fewn y terfynau cymwys ac yr ufuddheir i'r cyfyngiad deiliadaeth o ran pob mangre gysylltiedig.

(2Dyma'r mangreoedd y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt—

(a)y fangre lle gweithredir y gwasanaeth symudol; neu

(b)os gweithredir y gwasanaeth symudol o fwy nag un set o fangreoedd, prif le busnes y cynhyrchydd.

(3Os yw unrhyw fangre—

(a)yn fangre safle ar wahân i'r gwasanaeth symudol; a hefyd

(b)yn fangre mewn perthynas â'r gwasanaeth symudol,

caniateir gwneud un hysbysiad unigol.

Y terfynau cymwys

30.—(1Y terfynau cymwys ar gyfer—

(a)gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm maint y gwastraff peryglus a gynhyrchir wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a

(b)unrhyw fangre esempt yw bod cyfanswm y gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn y fangre yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.

(2Mae gwastraff peryglus a gynhyrchir ar fangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd i'w drin fel pes cynhyrchwyd gan y meddiannydd at ddibenion y Rheoliad hwn.

Cyfyngiad y ddeiliadaeth

31.  Cyfyngiad y ddeiliadaeth yw nad yw gweithredydd y gwasanaeth symudol naill ai'n berchen nac yn feddiannydd y mangreoedd cysylltiedig hynny.

Dehongli'n gyffredinol Ran 5

32.  Yn y Rhan hon—

mae i “amser effeithiol” (“effective time”) yr ystyr a roddir gan reoliad 28;

ystyr “cludwr cofrestredig” (“registered carrier”) yw cludwr a gofrestrwyd yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(4);

mae i “cyfnod hysbysu” (“period of notification”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

ystyr “Deddf 1963” (“the 1963 Act”) yw Deddf Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd 1963(5);

ystyr “ffi berthnasol” (“relevant fee”) yw'r ffi sy'n daladwy yn ôl cynllun a wnaed yn unol ag adran 41 o Ddeddf 1995;

mae i “cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig” yr ystyr a roddir i “waste electrical and electronic equipment” yng Nghyfarwyddeb 2002/96/EC(6);

mae i “mangre a hysbyswyd” (“notified premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw'r fangre y mae'n ofynnol i'r cynhyrchydd neu'r traddodwr ei hysbysu;

mae i “mangre esempt” (“exempt premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 23;

mae i “mangre gwasanaeth” (“service premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 29(1);

ystyr “mangre gysylltiedig” (“related premises”) yw mangre safle lle mae gwasanaeth symudol yn cynhyrchu gwastraff y mae mangre safle yn fangre berthnasol ar ei gyfer yn unol â rheoliad 29;

ystyr “mangre safle” (“site premises”) yw mangre lle mae gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu;

mae i “mangre siop” yr ystyr a roddir i “shop premises” gan adran 1(3) o Ddeddf 1963; a

mae i “mangre swyddfa” yr ystyr a roddir i “office premises” gan adran 1(2)(a) o Ddeddf 1963.

(3)

O.S. 1992/588. Diwygiwyd rheoliad 2 gan reoliad 24(3) o O.S. 1994/1056; mae diwygiadau eraill i O.S. 1992/588 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

OJ Rhif L 037, 13.12.2003, t.24.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill