xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
47.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n tipio (neu'n gollwng) gwastraff peryglus (p'un ai wrth ei waredu neu ei storio) yn neu ar unrhyw dir gofnodi ac enwi'r gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.
(2) Rhaid i gofnod gynnwys naill ai—
(a)cynllun safle wedi'i farcio â grid, neu
(b)cynllun safle â throsgaenau lle dangosir dyddodion y gwastraff sy'n cael ei dipio (ei ollwng) mewn perthynas â chyfuchliniau'r safle.
(3) Mae cofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn i'w cadw mewn cofrestr.
(4) Rhaid enwi'r dyddodion drwy gyfeirio at—
(a)y disgrifiad perthnasol a'r cod chwe digid yn y Rhestr Wastraffoedd, ynghyd â disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff; a
(b)y nodyn traddodi sy'n ymwneud â'r gwastraff hwnnw, ac eithrio lle gwaredir gwastraff o fewn cwrtil y fangre lle cynhyrchir ef, pan mae'n rhaid disgrifio'r dyroddion drwy gyfeirio at yr ateb chwarterol a roddir i'r Asiantaeth gan gynhyrchydd y gwastraff peryglus o dan reoliad 53.
(5) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr yn unol â'r rheoliad hwn—
(a)diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn 24 awr ar ôl derbyn y gwastraff, neu'r dyddodion, yn ôl y digwydd;
(b)cadw'r gofrestr ar y safle lle mae'r tipio'n digwydd; ac
(c)cadw'r cofnodion—
(i)am dair blynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu
(ii)os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
(6) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o oriau at ddibenion y rheoliad hwn neu reoliad 48, dim ond y diwrnodau neu oriau unrhyw ddiwrnod busnes sydd i'w cyfrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 47 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
48.—(1) Rhaid i unrhyw berson sydd—
(a)yn gwaredu gwastraff peryglus yn neu ar dir (ac eithrio unrhyw waredu y mae rheoliad 47 yn ymdrin ag ef);
(b)yn adfer gwastraff peryglus yn neu ar dir; neu
(c)yn derbyn gwastraff peryglus mewn gorsaf drosglwyddo,
gofnodi ac enwi unrhyw wastraff peryglus a dderbyniwyd yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.
(2) Rhaid enwi'r gwastraff yn y cofnod drwy gyfeirio at y disgrifiad perthnasol yn y Rhestr Wastraffoedd a'r cod chwe digid, a rhaid i'r hyn a gofnodir gynnwys disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff.
(3) Rhaid i'r cofnod gynnwys—
(a)maint, natur a tharddiad unrhyw wastraff o'r fath;
(b)y nodweddion peryglus perthnasol;
(c)pan fo'n gymwys, y dull adfer mewn perthynas â'r gwastraff drwy gyfeirio at y Rhif a'r disgrifiad cymwys yn unol ag Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff; a
(ch)stocrestr yn dangos y lleoliad penodol lle delir y gwastraff.
(4) Rhaid i gofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn gael eu cadw mewn cofrestr.
(5) Rhaid diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na 24 awr ar ôl—
(a)derbyn llwyth o wastraff peryglus;
(b)unrhyw waith adfer neu waredu a wnaed neu ar ôl rhoi unrhyw wastraff peryglus i'w storio yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; neu
(c)symud unrhyw wastraff peryglus o'r fangre.
(6) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofnodion yn unol â'r rheoliad hwn—
(a)cadw'r gofrestr o'r cofnodion ar y safle lle gwneir unrhyw waith adfer neu lle gweithredir yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; a
(b)cadw'r cofnodion—
(i)lle'r adferir y gwastraff peryglus yn llawn, neu lle mae'n aros yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd, nes y bydd yn gadael y safle ac am dair blynedd wedyn; neu
(ii)os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 48 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
49.—(1) Rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad gwastraff peryglus, ac, os yw'n wahanol i'r cynhyrchydd, traddodwr gwastraff peryglus, gadw cofnod o faint, natur, tarddiad ac, os yw'n berthnasol, cyrchfan, amledd casglu, cyfrwng cludo a dull trin y gwastraff.
(2) Os cludir y gwastraff, mae'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn cynnwys gofyniad i gadw cofnod o fanylion sy'n ddigonol i wybod pwy yw'r cludwr.
(3) Rhaid i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, yn ôl y digwydd, gadw'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol â'r rheoliad hwn tra bydd yn parhau i fod yn ddeiliad y gwastraff a hynny am o leiaf dair blynedd wedyn gan ddechrau ar y dyddiad pan drosglwyddir y gwastraff i berson arall.
(4) Rhaid cofnodi'r wybodaeth sydd i'w chofnodi yn unol â'r darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn mewn cofrestr a gedwir gan y cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, yn ôl y digwydd, at y diben.
(5) Rhaid i'r gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw a'i diogelu gan gynhyrchydd, deiliad neu draddodwr o dan baragraff (4) o'r rheoliad hwn gael ei chadw—
(a)o ran y gofrestr y mae'n ofynnol i gynhyrchydd neu ddeiliaid ei chadw—
(i)yn y fangre a hysbyswyd yn unol â rheoliad 24;
(ii)os nad yw'n meddiannu'r fangre honno bellach, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw); neu
(iii)os na hysbyswyd unrhyw fangre mewn perthynas â'r gwastraff, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw).
(b)rhaid i'r gofrestr y mae'n ofynnol i draddodwr heblaw'r cynhyrchydd neu'r deiliad ei chadw gael ei chadw yn ei brif le busnes.
(6) Os yw'r cynhyrchydd neu'r deiliad yn rhoi'r gorau i feddiannu'r fangre a hysbyswyd cyn y daw'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) i ben, rhaid iddo hysbysu'r Asiantaeth ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 49 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
50.—(1) Rhaid i sefydliad neu ymgymeriad sy'n cludo gwastraff peryglus gadw cofnodion o faint, natur, tarddiad ac, os yw'n berthnasol, cyrchfan, amledd casglu, cyfrwng cludo a dull trin y gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r sefydliad neu'r ymgymeriad gadw'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol â'r rheoliad hwn am o leiaf ddeuddeng mis gan ddechrau ar y dyddiad y traddodir y gwastraff i'w gyrchfan.
(3) Rhaid cofnodi'r wybodaeth sydd i'w chofnodi yn unol â pharagraff (1) mewn cofrestr a rhaid cadw'r gofrestr ym mhrif le busnes y cludwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 50 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
51.—(1) Mae darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chofrestrau y mae'n ofynnol eu cadw o dan reoliadau 47 i 50.
(2) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofrestr roi yn y gofrestr bob copi y mae'n ei gael o'r canlynol—
(a)unrhyw nodyn traddodi (gan gynnwys nodiadau amldraddodi a phan na dderbynnir llwythi, y nodyn gwreiddiol, copi o unrhyw esboniad o'r rhesymau dros wrthod a baratowyd yn unol â rheoliad 42 a'r nodyn traddodi a baratowyd yn unol â rheoliad 43 neu 44);
(b)ateb unrhyw draddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr a'i derbyniodd yn unol â rheoliad 54; ac
(c)unrhyw atodlen cludwr a roddwyd iddo yn unol â rheoliad 37.
(3) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofrestr neu gadw cofnodion hyd nes y bydd ei drwydded gwastraff wedi'i hildio neu wedi'i dirymu anfon y cofnodion hynny neu'r gofrestr honno i'r Asiantaeth pan ildir neu ddirymir y drwydded.
(4) O ran pob cofrestr a gedwir neu gofnod a wneir yn unol â rheoliad 15 neu 16 o Reoliadau 1996, a phob cofnod a wneir yn unol â rheoliad 13 neu 14 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Gwastraff Arbennig) 1980—
(a)rhaid eu cadw gyda'r gofrestr a gedwir yn unol â rheoliad 47 i 49 gan y person y mae'n ofynnol iddo gadw'r cofrestr honno, am y cyfnod a grybwyllir yn y rheoliad perthnasol; a
(b)rhaid eu hanfon gan y person hwnnw ynghyd â'r gofrestr honno os anfonir hi at yr Asiantaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 51 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
52.—(1) Mae dyletswydd gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo ar gyfer gwaredu neu adfer, yn ôl y digwydd, i unrhyw ddeiliad blaenorol y gwastraff, i roi i'r deiliad blaenorol hwnnw dystiolaeth ddogfennol pan ofynnir amdani bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd, i'r Gyfarwyddeb Wastraff.
(2) Rhaid i unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod (na chaniateir iddo fod yn llai na saith niwrnod) y mae'r wybodaeth i'w darparu.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 52 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
53.—(1) Rhaid i bob traddodai roi ateb, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel ateb chwarterol y traddodai, i'r Asiantaeth o wybodaeth sy'n ymwneud â holl lwythi gwastraff peryglus a dderbyniwyd ganddo yn unrhyw chwarter yn unol â pharagraff (4).
(2) Rhaid i'r ateb gynnwys—
(a)llwythi a wrthodwyd;
(b)gwastraff peryglus a draddodwyd drwy biblinell os yw rheoliad 41 yn gymwys; ac
(c)yn achos amlgasgliadau, pob llwyth unigol a gasglwyd.
(3) Mewn unrhyw chwarter os gwaredir gwastraff peryglus drwy ei ddodi yng nghwrtil y fangre lle'i cynhyrchir, rhaid i'r cynhyrchydd roi ateb mewn perthynas â'r chwarter hwnnw o wybodaeth sy'n ymwneud â'r dyddodi i'r Asiantaeth, yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i ateb a roddir yn unol â'r rheoliad hwn mewn perthynas â chwarter gael ei dychwelyd dim hwyrach na'r amser a bennir yn y golofn ar y llaw dde yn y tabl isod mewn perthynas â'r chwarter a bennir yn y golofn ar y llaw chwith:
Y chwarter pan dderbyniwyd, neu pan ddyddodwyd y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd | Yr ateb i ddod i law'r Asiantaeth ddim hwyrach na |
---|---|
Diweddu ar 31 Mawrth | 30 Ebrill yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd |
Diweddu ar 30 Mehefin | 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd |
Diweddu ar 30 Medi | 31 Hydref yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd |
Diweddu ar 31 Rhagfyr | 31 Ionawr yn y flwyddyn nesaf ar ôl i'r chwarter ddigwydd |
(5) Caiff yr Asiantaeth ragnodi fformat ar gyfer rhoi atebion o dan y rheoliad hwn ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—
(a)rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r fformat ar ei gwefan ac mewn unrhyw fodd arall yr ystyria'n briodol i hysbysu personau y mae'n ofynnol iddynt gyflwyno atebion o'r fath iddynt o'i chynnwys; a
(b)nid yw'r Asiantaeth yn gorfod barnu bod ateb wedi'i roi yn briodol at ddibenion y Rheoliadau hyn oni chafodd ei roi yn y fformat hwnnw, neu mewn fformat sylweddol o ran effaith.
(6) Os bydd yr Asiantaeth yn rhagnodi ffi sy'n daladwy gan draddodai drwy gynllun codi tâl a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel dull o adennill ei chostau a dynnwyd wrth iddi gyflawni swyddogaethau o ran y llwythi sydd wedi'u cynnwys mewn atebion chwarterol y traddodai, caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan y Rheoliadau hyn o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 53 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
54. Heb leihau effaith unrhyw ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn ar ran y traddodai i anfon unrhyw ddogfen neu gopi ohoni at y cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, rhaid i draddodai anfon at gynhyrchydd neu ddeiliad a enwir yn y rhan berthnasol o nodyn traddodi—
(a)ateb ar ffurf sy'n cyfateb i'r ffurf a welir yn Atodlen 8 neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith o fewn un mis o ddiwedd y chwarter y derbyniwyd y gwastraff o dan sylw; neu
(b)copi o'r nodyn traddodi ynghyd â disgrifiad o'r dull gwaredu neu adfer a ddefnyddiwyd mewn perthynas â'r gwastraff o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y cafodd y gwastraff o dan sylw ei dderbyn.
(2) Os traddodwyd gwastraff peryglus drwy biblinell mewn achos y mae rheoliad 41 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn gymwys fel bod yr ateb sy'n ofynnol o dan is-baragraff (a) neu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan is-baragraff (b) i'w ddarparu o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y rhoddwyd y gwastraff o dan sylw mewn piblinell.
(3) Os yw rheoliad 42 yn gymwys, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i'r llwyth neu'r rhanlwyth o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 54 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
55.—(1) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw unrhyw gofnod yn unol ag unrhyw rai o'r darpariaethau blaenorol yn y Rhan hon, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae'n ofynnol cadw'r cofnod, ddangos y cofnod hwnnw i'r Asiantaeth neu'r gwasanaethau brys pan ofynnir amdano.
(2) Rhaid i gynhyrchydd, deiliad, deiliad blaenorol, traddodwr, cludwr neu draddodai gwastraff peryglus roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani yr wybodaeth honno y gall yr Asiantaeth fod ei hangen yn rhesymol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac at ddibenion monitro cynhyrchiant, symud, storio, trin, adfer a gwaredu gwastraff peryglus.
(3) Mae gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo i'w adfer neu i'w waredu, yn ôl y digwydd, y ddyletswydd i roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani dystiolaeth ddogfennol bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd o'r Gyfarwyddeb Wastraff.
(4) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo roi gwybodaeth i'r Asiantaeth yn unol â'r rheoliad hwn roi'r wybodaeth honno yn y ffurf y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani.
(5) Mae'r pŵer a roddir gan baragraff (4) yn cynnwys pŵeri'w gwneud yn ofynnol i ddangos ar ffurf weladwy a darllenadwy unrhyw wybodaeth a ddelir ar ffurf electronig.
(6) Mae unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn i fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae'r wybodaeth i'w darparu.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 55 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)