Gwahardd symud gwastraff peryglus o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esempt
22.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud, na pheri symud, na chludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre, onid yw'r fangre honno, pan symudir y gwastraff, yn fangre a hysbyswyd neu'n fangre esempt.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i symud neu gludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre os oedd y gwastraff hwnnw wedi'i ddyddodi yn y fangre honno yn groes i adran 33 o Ddeddf 1990 heblaw drwy honni cydymffurfedd â thrwydded rheoli gwastraff neu esemptiad cofrestredig.