Y terfynau cymwysLL+C
30.—(1) Y terfynau cymwys ar gyfer—
(a)gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm maint y gwastraff peryglus a gynhyrchir wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a
(b)unrhyw fangre esempt yw bod cyfanswm y gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn y fangre yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.
(2) Mae gwastraff peryglus a gynhyrchir ar fangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd i'w drin fel pes cynhyrchwyd gan y meddiannydd at ddibenion y Rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 30 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I2Rhl. 30 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)