xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1819 (Cy.147)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

5 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1), (2) a (4) a 12(1) i (3) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:—

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Dyfarniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achosion pan fydd panel mabwysiadu, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006, yn ystyried am y tro cyntaf neu'n adolygu pa mor addas yw'r darpar fabwysiadwr i fod yn rhiant mabwysiadol.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “asiantaeth fabwysiadu” (“adoption agency”) yw sefydliad gwirfoddol priodol neu awdurdod lleol;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darpar fabwysiadwr” (“prospective adopter”) yw person sy'n bwriadu mabwysiadu plentyn;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o fewn yr ystyr yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau 2005;

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(3).

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—

(a)at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

Dyfarniadau o gymhwyster

3.  At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, dyfarniad o gymhwyster yw dyfarniad sydd wedi'i wneud gan asiantaeth fabwysiadu yn unol â Rheoliadau 2005 fel a ganlyn:

(a)pan nad yw'r asiantaeth o dan reoliad 28(4) o Reoliadau 2005 yn bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadwr fel un sy'n addas i fod yn rhiant mabwysiadol;

(b)pan fydd yr asiantaeth yn ystyried nad yw darpar fabwysiadwr bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol yn dilyn adolygiad o dan reoliad 30 o Reoliadau 2005.

RHAN 2PANELAU

Cyfansoddiad a swyddogaethau panelau

4.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gais darpar fabwysiadwr, ffurfio panel at ddiben adolygu dyfarniad o gymhwyster mewn perthynas â'r darpar fabwysiadwr.

(2Rhaid i aelodau'r panel gael eu dewis oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi'n aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y rhestr ganolog”) ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried eu bod yn addas yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel. Cedwir y rhestr gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i banel a sefydlir o dan baragraff (1) —

(a)yn adolygu'r dyfarniad o gymhwyster; a

(b)yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster ynghylch pa un a yw darpar fabwysiadwr yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol ai peidio.

Aelodaeth panelau

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi dim mwy na phum person yn aelodau o'r panel, a rhaid iddynt gynnwys (lle y bo'n rhesymol ymarferol):

(a)rhiant mabwysiadol; a

(b)person wedi'i fabwysiadu sydd wedi cyrraedd 18 oed.

(2Rhaid i'r panel gael cyngor gan:

(a)gweithiwr cymdeithasol, o fewn yr ystyr sydd iddo yn Rhan IV o Ddeddf Safonau Gofal 2000(4), y mae ganddo o leiaf 5 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwaith mabwysiadu a lleoli mewn teuluoedd;

(b)ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd mewn gwaith mabwysiadu; ac

(c)pan fo'r panel yn ystyried hynny'n briodol, cynghorydd cyfreithiol â gwybodaeth o ddeddfwriaeth fabwysiadu ac arbenigedd ynddi.

(3Ni fydd unrhyw berson yn cael ei benodi naill ai'n aelod o banel neu'n gynghorydd i banel a gaiff ei gynnull i adolygu dyfarniad o gymhwyster a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu a fu'n cyflogi'r person hwnnw ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad pryd yr atgyfeirir yr achos at y panel.

(4Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fod wedi cael ei gyflogi yn cynnwys cael ei gyflogi gan asiantaeth fabwysiadu pa un ai am dâl ai peidio a pha un ai o dan gontract gwasanaethau neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr.

Cadeirydd ac is-gadeirydd

6.  Wrth ffurfio panel yn unol â rheoliad 4, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi:

(a)i gadeirio'r panel, berson —

(i)ag arbenigedd mewn gwaith mabwysiadu; a

(ii)â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel; a

(b)un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os bydd y person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag.

Gweinyddu panelau

7.  Gweinyddir y panel gan y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn gwneud darpariaeth addas ar gyfer gwasanaethau clercio ar gyfer y panel.

Treuliau aelodau panelau

8.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl ei ddisgresiwn, dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn rhesymol.

Cyfarfodydd panelau

9.  Rhaid i banel beidio â chynnal unrhyw fusnes onid oes pedwar o'i aelodau o leiaf gan gynnwys y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn cyfarfod fel panel.

Cofnodion

10.  Rhaid i banel —

(a)cadw cofnod ysgrifenedig o'i adolygiadau o ddyfarniadau o gymhwyster, gan gynnwys y rhesymau dros ei argymhellion; a

(b)sicrhau bod cofnodion o'r fath yn cael eu cadw o dan amodau sy'n briodol o ddiogel.

RHAN 3GWEITHDREFN

Cais gan ddarpar fabwysiadwr am i ddyfarniad o gymhwyster gael ei adolygu

11.—(1Caiff darpar fabwysiadwr, o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y bydd yr asiantaeth fabwysiadu'n anfon hysbysiad ynghylch y dyfarniad o gymhwyster mewn cysylltiad ag ef, wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am i banel gael ei ffurfio i adolygu'r dyfarniad hwnnw'n unol â rheoliad 4.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1)—

(a)bod yn ysgrifenedig; a

(b)datgan y rheswm dros y cais.

Cydnabod cais

12.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gydnabod yn ysgrifenedig o fewn 5 niwrnod gwaith bod unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 wedi dod i law.

Penodi panel a hysbysu ynghylch adolygiad

13.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith fod unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 wedi dod i law.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i unrhyw gais a wnaed yn unol â rheoliad 11 ddod i law, benodi panel a phennu dyddiad i'r panel gyfarfod i adolygu'r dyfarniad o gymhwyster hwnnw.

(3Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn ddiweddarach na 3 mis ar ôl y dyddiad y caiff y dyfarniad ei atgyfeirio.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu a'r darpar fabwysiadwr o'r dyddiad, yr amser a'r lle y cynhelir yr adolygiad a hynny ddim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad.

(5Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod y panel yn derbyn yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad a hynny ddim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad.

Argymhelliad panel

14.—(1Rhaid mai argymhelliad y mwyafrif fydd argymhelliad y panel.

(2Caiff yr argymhelliad ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad neu ei gadw wedi'i neilltuo.

(3Rhaid cofnodi'r argymhelliad a'r rhesymau drosto yn ddi-oed a hynny mewn dogfen y bydd y cadeirydd yn ei llofnodi ac yn nodi'r dyddiad arni.

(4Rhaid ymdrin â'r argymhelliad fel pe bai wedi'i wneud ar y dyddiad y llofnododd y cadeirydd y ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3).

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny'n ddi-oed ac yn sicr heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y gwnaed yr argymhelliad, anfon copi o'r argymhelliad at —

(a)yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster; a

(b)y darpar fabwysiadwr.

Gorchymyn i dalu costau

15.  Caiff y panel wneud gorchymyn yn mynnu bod yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y dyfarniad o gymhwyster a adolygwyd yn talu'r costau hynny y mae'r panel mabwysiadu yn ystyried eu bod yn rhesymol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn sefydlu panelau adolygu annibynnol. Adolygu'r dyfarniadau canlynol a wnaed gan banelau asiantaethau mabwysiadu yw swyddogaeth y panelau: a) penderfyniad i beidio â chymeradwyo ceiswyr fel rhai sy'n addas i fod yn rhieni mabwysiadol i blant mewn perthynas â mabwysiadu o fewn ffiniau gwlad a b) penderfyniad nad yw darpar fabwysiadwr bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol.

Ni all y panel adolygu wyrdroi dyfarniad asiantaeth fabwysiadu. Gall adolygu'r wybodaeth a fu gerbron yr asiantaeth fabwysiadu a gofyn am fwy o wybodaeth. Yna gall wneud argymhelliad i'r panel asiantaeth fabwysiadu ynghylch pa mor addas yw'r darpar fabwysiadwyr. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried argymhelliad y panel adolygu pan fydd yn gwneud ei phenderfyniad terfynol ynghylch pa mor addas yw'r darpar fabwysiadwyr.

(1)

2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144 o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.

(4)

2000 p.14. Yn rhinwedd adran 55(2)(a) a (4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, person sy'n ymgymryd â gwaith cymdeithasol y mae ei angen mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau iechyd, addysg neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson yw gweithiwr cymdeithasol at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno.