xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENDarpariaethau Cymunedol Penodedig

Rhan I

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y CyngorY Pwnc
Erthygl 5(3)Bwrw ymlaen â symud yn fwriadol organedd a addaswyd yn enetig ar draws ffin am y tro cyntaf a hwnnw'n organedd a fwriadwyd ar gyfer ei ollwng yn fwriadol mewn ffordd na fyddai'n cydymffurfio â'r gweithdrefnau perthnasol.
Erthygl 10(1)Methu â pharchu unrhyw benderfyniad ar fewnforio organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu.
Erthygl 10(2)Bwrw ymlaen ag allforio am y tro cyntaf organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu mewn ffordd nad yw'n cydymffurfio â'r weithdrefn berthnasol.
Erthygl 10(3)Allforio organeddau a addaswyd yn enetig yn ddarostyngedig i symudiadau trawsffiniol ar gyfer defnyddio'r organeddau hynny'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu heb fod cytundeb datganedig i awdurdodi'r mewnforio wedi'i wneud o fewn y Gymuned neu gan awdurdod cymwys trydedd wlad, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.